Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr
Os bydd digon ohonom yn gwneud newidiadau bach i’n harferion bob dydd, yna gallwn wneud gwahaniaeth mawr. Ymunwch â’r bobl, y cymunedau a’r busnesau sy’n troi newidiadau bach mewn i effeithiau mawr!
Ffyrdd hawdd y gallwch wneud newid cadarnhaol
Efallai na fyddwch yn gallu gwneud popeth ar unwaith, ond dechrau arni yw’r peth pwysig. O leihau eich deunydd pacio i wneud defnydd maethlon o wastraff bwyd, dyma gamau ymarferol sy’n helpu’r amgylchedd – a’ch poced.

Deg ffordd i atal gwastraff

Pum cam i leihau deunydd pacio

Pum ffordd i fwyta’n gynaliadwy ar gyllideb

Pum ffordd i leihau ynni wrth goginio

Gwnewch addewid i wneud pethau’n wahanol
Wedi cael eich ysbrydoli? Addawch fwyta bwyd tymhorol a chael cyngor i’ch helpu. Ymunwch ag eraill sydd wedi gwneud hynny gyda Gweithredu ar Hinsawdd Cymru.
Angen rhagor o ysbrydoliaeth?
Dyma lle i ymchwilio’n ddyfnach i bopeth sy’n ymwneud â bwyta’n fwy cynaliadwy. Gallwch fwynhau cyfres o fideos sy’n llawn awgrymiadau defnyddiol ar wneud newidiadau bach sy’n creu effaith fawr.
Ac os ydych chi’n awyddus i ddysgu mwy am rai o’r pynciau sy’n cael eu trafod yn y fideos, gallwch weld y taflenni ffeithiau cysylltiedig am fwy o ysbrydoliaeth i’ch helpu ar eich taith i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, parhaol.
Dewis cynnyrch lleol
Boed yn siopa mewn marchnadoedd ffermwyr lleol lle mae ffrwythau a llysiau ffres, wedi’u tyfu’n lleol, neu siopau groser sy’n blaenoriaethu cynnyrch lleol – dysgwch fwy am fanteision dewis cynnyrch lleol.
Bwyta gyda'r tymhorau
Gellir defnyddio hyd yn oed mannau bach i dyfu eich llysiau, perlysiau a ffrwythau eich hun. A gallwch ymuno â gardd gymunedol os nad oes gennych le gartref.
Camau syml i ddechrau tyfu eich bwyd eich hun
Ymunwch ag Adam yn yr Ardd wrth iddo rannu awgrymiadau syml ac ymarferol ar dyfu eich bwyd eich hun gartref. Yn y fideo hwn, mae Adam yn dangos sut i dyfu tatws mewn bwced ac egin pys ffres mewn pwned, sy’n berffaith ar gyfer silff ffenestr – yn ddelfrydol ar gyfer mannau bach. Hawdd i’w ddilyn ac yn addas i ddechreuwyr, mae’n ffordd wych o ddechrau tyfu cynnyrch ffres a lleol gartref.
Awgrymiadau gwych i dyfu eich bwyd eich hun
Mae tyfu eich bwyd eich hun yn ffordd syml o wella eich iechyd, cefnogi’r amgylchedd a chreu cysylltiad cryfach a’ch cymuned. Gall hau un peth bach dechrau taith fawr, gyffrous!
Coginio gyda'ch teulu
Gall byrhau’r pellter mae bwyd yn teithio o adeg ei gynhyrchu i’r adeg y byddwch chi’n ei brynu gael effaith fawr ar eich teulu, ein cymunedau, a’n hamgylchedd.
Lleihau eich deunydd pacio
Mae dewis ffrwythau a llysiau nad ydynt wedi’u lapio mewn plastig, defnyddio bagiau a chynwysyddion amldro a phrynu mewn swmp yn helpu lleihau gwastraff deunydd pacio ac yn gwneud gwahaniaeth i’n planed.
Lleihau gwastraff bwyd
Trwy gynllunio prydau bwyd, defnyddio sbarion, compostio a rhannu bwyd dros ben, gallwn leihau gwastraff bwyd a diogelu’r blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Ffigurau diddorol…
Mae dewis bwyd o Gymru yn cefnogi bywoliaeth wledig, yn creu swyddi gwyrdd, ac yn cadw gwerth o fewn cymunedau lleol, sy’n cyd-fynd â nodau cynaliadwyedd a lles Cymru.
Hectar o dir ffermio
Mae gan Gymru 1.96 miliwn hectar o dir ffermio, gyda 76,000 hectar yn cael ei ffermio’n organig.
%
Cyfraddau Ailgylchu
Mae Cymru yn ail yn y byd o ran ailgylchu ac yn gyntaf yn y DU, gyda chyfraddau ailgylchu trefol yn cyrraedd 68.4% yn 2024-25.
Mae pob cyngor yng Nghymru yn cynnig ailgylchu gwastraff bwyd, sy’n ei gwneud hi’n haws i ni leihau effaith amgylcheddol ein gwastraff bwyd.
%
"Blasu’n Wych"
Mae 85% o siopwyr Cymru yn meddwl bod bwyd a diod o Gymru o ‘Ansawdd Gwych’ ac mae 80% yn meddwl ei fod yn ‘Blasu’n Wych’.
%
Prynu'n Annibynnol
Mae tua 40% o bobl yng Nghymru yn prynu gan fanwerthwyr annibynnol, siopau fferm neu gynlluniau bocs llysiau o leiaf unwaith y mis, sy’n sylweddol uwch na chyfartaledd y DU o 30%.
Mae dewis bwyd o Gymru yn cefnogi bywoliaeth wledig, yn creu swyddi gwyrdd, ac yn cadw gwerth o fewn cymunedau lleol.
Ryseitiau atal gwastraff
Dyma ryseitiau cyflym, syml a blasus sy’n gwneud defnydd da o wastraff bwyd. Ac os ydych yn hoffi’r rhain, mae yna lawer mwy yn ein hadran ryseitiau.
Beth sydd yn gwneud bwyd a diod o Gymru mor arbennig?
Gwirioneddol eiconig
A hwythau’n cael eu hedmygu’n fyd-eang, nid yw’n syndod bod nifer cynyddol o gynhyrchion bwyd a diod Cymru yn cael statws enw bwyd gwarchodedig o dan y cynllun Dynodiad Daearyddol (GI). Hyd yma, mae’r achrediad a gydnabyddir yn rhyngwladol wedi gosod 20 o gynhyrchion bwyd a diod eiconig o Gymru ar lwyfan y byd. Wedi ymuno â’r teulu GI unigryw yn ddiweddar mae Cennin Cymreig (PGI), Cig Oen Morfa Halen Gŵyr (PDO) a Wisgi Cymreig Brag Sengl (PGI).
Cefnogi ein planed
Mae ei hadnoddau naturiol a’i thirweddau eithriadol, ynghyd â’i phobl a’i diwylliant, yn sail i ddiwydiant bwyd a diod cyfoethog ac amrywiol Cymru. O arferion ffermio a physgota cyfrifol i achrediad B Corp, prosesau pecynnu ecogyfeillgar ac ethos gwaith teg – dyma rai o’r elfennau sy’n diffinio’r diwydiant, gyda’r nod o greu un o’r cadwyni cyflenwi bwyd a diod mwyaf cyfrifol, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol, yn y byd.
Bwyd a diod sy’n ennill gwobrau
Mae Cymru yn gartref i sector bwyd a diod ffyniannus sy’n esblygu’n barhaus ac yn parhau i arloesi a chreu cynnyrch sy’n ennill gwobrau. Nid yw ansawdd ac amrywiaeth eithriadol y cynhyrchion yn cael eu hanwybyddu. Yn 2023, enillodd 195 o gynhyrchion bwyd a diod o Gymru wobr fawreddog Great Taste gan gynllun achredu bwyd a diod mwyaf y byd, a’r un sy’n cael ei barchu fwyaf.
