Helpu eich busnes bwyd a diod i ddatblygu cynllun lleihau carbon

Mae mesur llwyddiant eich busnes yn hanfodol ar gyfer twf, ond a ydych chi wedi mesur allbynnau carbon eich busnes?

Mae lleihau allyriadau eich busnes nid yn unig yn dod â buddion i’ch busnes a’r gymuned ehangach, ond mae hefyd yn cyfrannu at darged y llywodraeth o gyflawni allyriadau sero-net erbyn 2050.

Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus a barodd ddwy flynedd, rydym yn falch o lansio ein Gwasanaeth Cynaliadwyedd. Drwy’r gwasanaeth hwn, gallwch gael mynediad at y Clwstwr Cynaliadwyedd, cymorth B Corp, a chynllun pwrpasol i leihau carbon.

Beth yw cynllun lleihau carbon?

Mae cynllun lleihau carbon yn rhaglen mapio sy’n cael ei chreu gan fusnesau neu sefydliadau i leihau eu hallyriadau carbon a’u hôl troed amgylcheddol. Mae’n gosod targedau ar gyfer lleihau allyriadau, yn amlinellu strategaethau i gyflawni’r nodau hyn, ac yn olrhain cynnydd dros amser.

Mae’r cynlluniau hyn yn aml yn cynnwys mesurau fel hybu effeithlonrwydd ynni, mabwysiadu ffynonellau ynni adnewyddadwy, a hyrwyddo arferion cynaliadwy i helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Sut gallwn ni gefnogi eich busnes?

Bydd busnesau’n cael cymorth gan gynghorydd technegol arbenigol i:

sefydlu llinell sylfaen ar gyfer eu hôl troed carbon;

1. Sefydlu gwaelodlin ar gyfer eu hôl troed carbon

2. Datblygu cynllun lleihau carbon gyda tharged o gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050, gan gynnwys targedau mesuradwy i helpu eich busnes i flaenoriaethu gweithgareddau lleihau carbon gydag amcangyfrif clir o arbedion carbon

3. Ymweld â’ch safle (lle bo’n briodol) i ddeall eich busnes yn well

Enghreifftiau o fusnesau rydyn wedi’u cefnogi

Dysgwch fwy am sut mae’r cynllun peilot wedi bod yn helpu busnesau bwyd a diod o bob cwr o Gymru:

Sut gall eich busnes gymryd rhan?

I ymuno â’r cynllun, cysylltwch â ni ar yr e-bost isod a chynnwys “Cefnogaeth Cynlluniau Lleihau Carbon” yn y llinell bwnc.

Peidiwch ag oedi: SustainableFD@gov.wales

 

Puffin Produce
Food Drink Wales logo
Trosolwg Preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis fel y gallwn roi'r profiad defnyddiwr gorau posibl i chi. Mae gwybodaeth cwcis yn cael ei storio yn eich porwr ac mae’n cyflawni swyddogaethau fel eich adnabod pan fyddwch yn dychwelyd i’n gwefan a helpu ein tîm i ddeall pa adrannau o’r wefan sydd fwyaf diddorol a defnyddiol i chi.