Caru bwyd a diod Cymreig…

Mae’r ystod o fwyd a diod sy’n cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru yn amrywiol. Gyda naws ranbarthol mewn blasau, prosesau a thechnegau, mae wedi dal dychymyg cogyddion rhyngwladol o fri sy’n chwilio am gynnyrch Cymreig i’w weini yn eu bwytai ledled y byd. Y peth da yw nad oes angen i chi fod yn gogydd i werthfawrogi bwyd a diod Cymreig, ac mae cymaint mwy i’w ddarganfod.

Caerphilly Cheese@2x Min

Marchnad Penwythnos Gŵyl Ddewi

Dydd Sadwrn 2 Mawrth
(10am – 6pm)

Dydd Sul 3 Mawrth
(10am – 4pm)

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, rydyn ni’n mynd â’r gorau o fwyd a diod Cymreig i Lundain ar gyfer marchnad fywiog sy’n cynnwys sesiynau blasu ac arddangosiadau coginio am ddim. Lamb Street, Marchnad Spitalfields, fydd lleoliad y wledd hon o gynnyrch Cymreig – o’r pice ar y maen traddodiadol ac annwyl, i charcuterie arobryn a llawer mwy. Mae mynediad am ddim.

Bydd yr arbenigwraig bwyd a diod enwog a’r cogydd teledu Nerys Howell yn y farchnad, yn coginio’r ryseitiau Cymreig traddodiadol isod i chi eu mwynhau.

Cynhyrchwyr

Gyda chyfoeth o ddanteithion bwyd a diod i chi eu mwynhau, dyma’r cynhyrchwyr a fydd yn y farchnad.

Producer Aber@2x Min

Distyllfa Aber Falls

Producer Alfie@2x Min

Alfie’s Coffee

Producer Carmarthendeli@2x Min

Deli Caerfyrddin gan Albert Rees

Producer Cawl@2x Min

Cawl & Co

Producer Cwmfarm@2x Min

Cynhyrchion Charcuterie Cwmfarm

Producer Drop@2x Min

Drop Bear Beer Co.

Producer Grounds@2x Min

Grounds for Good

Producer Rachel@2x Min

Rachel’s Dairy

Producer Radnor@2x Min

Radnor Preserves

Producer Blaenafoncheddar@2x Min

The Blaenafon Cheddar Co.

Producer Rougewelshcakes@2x Min

The Rogue Welsh Cake Company

Ryseitiau Cymreig oesol

Er y gall cynhwysion Cymreig ddal eu tir mewn nifer o leoliadau coginio a chreu argraff ar bobl o bob rhan o’r byd, maen nhw wastad yn blasu o adref, a’r blas hwnnw wedi’i drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

Gall ryseitiau traddodiadol Cymreig amrywio o ranbarth i ranbarth a newid dros amser (gydag ychydig o hyn a’r llall yn cael ei ychwanegu yma ac acw), ond mae’r prif gynhwysion Cymreig wedi sefyll prawf amser. Rydyn ni’n meddwl bod y ryseitiau hyn wir yn crynhoi diwylliant, traddodiadau a blasau Cymru.

Gwirioneddol eiconig

A hwythau’n cael eu hedmygu’n fyd-eang, nid yw’n syndod bod nifer cynyddol o gynhyrchion bwyd a diod Cymru yn cael statws enw bwyd gwarchodedig o dan y cynllun Dynodiad Daearyddol (GI). Hyd yma, mae’r achrediad a gydnabyddir yn rhyngwladol wedi gosod 20 o gynhyrchion bwyd a diod eiconig o Gymru ar lwyfan y byd. Wedi ymuno â’r teulu GI unigryw yn ddiweddar mae Cennin Cymreig (PGI), Cig Oen Morfa Halen Gŵyr (PDO) a Wisgi Cymreig Brag Sengl (PGI).

Cefnogi ein planed

Mae ei hadnoddau naturiol a’i thirweddau eithriadol, ynghyd â’i phobl a’i diwylliant, yn sail i ddiwydiant bwyd a diod cyfoethog ac amrywiol Cymru. O arferion ffermio a physgota cyfrifol i achrediad B Corp, prosesau pecynnu ecogyfeillgar ac ethos gwaith teg – dyma rai o’r elfennau sy’n diffinio’r diwydiant, gan arwain at un o’r cadwyni cyflenwi bwyd a diod mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd.

Bwyd a diod sy’n ennill gwobrau

Mae Cymru yn gartref i sector bwyd a diod ffyniannus sy’n esblygu’n barhaus ac yn parhau i arloesi a chreu cynnyrch sy’n ennill gwobrau. Nid yw ansawdd ac amrywiaeth eithriadol y cynhyrchion yn cael eu hanwybyddu. Yn 2023, enillodd 195 o gynhyrchion bwyd a diod o Gymru wobr fawreddog Great Taste gan gynllun achredu bwyd a diod mwyaf y byd, a’r un sy’n cael ei barchu fwyaf.