Climate Adaptation & Resilience Training for Food and Drink Manufacturers
Wrth i’r newid yn yr hinsawdd gyflymu ac amlder a difrifoldeb digwyddiadau tywydd, nid yn unig yng Nghymru and ledled y byd, mae angen i chi wneud cynlluniau i sicrhau bod eich busnes a’ch cadwyn gyflenwi gyfan yn wydn.
Gweithdai ac offer rhyngweithiol wedi’u hariannu’n llawn i helpu Gweithgynhyrchwyr Bwyd a Diod Cymru i ddeall effeithiau newid yn yr hinsawdd a chymryd camau ymarferol i baratoi ar gyfer siociau anrhagweladwy yn eich busnes.
Ymunwch â ni bob pythefnos am 3 gweithdy rhyngweithiol, a fydd yn rhoi i chi:
Mynediad at hyfforddiant ar gyfer busnes gwyrddach, cynaliadwy.
Mae rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn gweithio’n agos gyda busnesau o bob maint yng Nghymru i nodi prinder sgiliau a chyfleoedd i uwchsgilio eu gweithlu.
Mae’r rhaglen hefyd yn darparu hyfforddiant cynaliadwyedd wedi’i ariannu’n llawn i gynorthwyo’ch busnes ar ei daith gynaliadwyedd a symud ymlaen tuag at gyflawni nodau Sero Net.
Pwrpas y cwrs hyfforddi yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i gyfranogwyr ddatblygu systemau a chamau gweithredu sy’n mynd i’r afael â rheolaeth amgylcheddol, cynaliadwyedd ac effaith gymdeithasol.
Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cynnig cyfres o weithai datgarboneiddio penodol ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod gyda ffocws ar bwysigrwydd symud tuag at sero net ar gyfer y sector.
Dewch i unrhyw un neu bob un o’r pum gweithdy datgarboneiddio annibynnol ar:
- Effeithlonrwydd a Rheolaeth Ynni
- Systemau Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy
- Datgarboneiddio Systemau Gwresogi
- Datgarboneiddio Systemau Oeri a Rheweiddio a
- Datgarboneiddio Gwastraff Bwyd a Phecynnu
Mae’r gweithdai nesaf i’w cynnal ar Fehefin 4, 11, 18, 25 a Gorffenaf 2.