Helpu eich busnes bwyd a diod i fod yn fwy cynaliadwy

Nawr yw’r amser i weithredu. Rydyn ni wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol yn ein hanes lle mae ein gweithredoedd yn bwysicach nag erioed. Mae gan bob dinesydd o bob gwlad y pŵer i gyfrannu ar y cyd at adfywiad ein planed trwy’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta.

Pum rheswm dros ymuno â’r Clwstwr Cynaliadwyedd

1

Mewnwelediad i'r farchnad

Trwy ymgysylltu â manwerthwyr, arbenigwyr yn y diwydiant ac ymchwil marchnad, bydd y Clwstwr Cynaliadwyedd yn eich helpu i nodi pa rinweddau cynaliadwyedd sydd eu hangen ar eich busnes i fodloni disgwyliadau defnyddwyr a manwerthwyr.

2

Mynediad at arbenigedd ac arloesedd

Mae gan y Clwstwr Cynaliadwyedd gysylltiadau â Llywodraeth Cymru, y byd academaidd, y tair canolfan arloesi bwyd, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru, Sgiliau Bwyd a Diod Cymru ac eraill. Bydd mynediad at yr arbenigedd hwn yn helpu eich busnes gyda gwella prosesau, awtomeiddio, ailfformiwleiddio, pecynnu, rheoli gwastraff a llawer mwy.

3

Cefnogaeth 1:1 ar gyfer ardystiad B Corp

Mae gan y Clwstwr Cynaliadwyedd hanes llwyddiannus o gydweithio’n agos â busnesau bwyd a diod Cymru, gan eu harwain drwy broses ardystio B Corp. Mae’r Clwstwr yn hwyluso busnesau i gwblhau Asesiadau Effaith B ac yn rheoli ffrwd waith B Corp benodol i fusnesau sy’n awyddus i gyflawni’r ardystiad pwysig.

4

Brandio ac arddangos mewn digwyddiadau

O dan frand Bwyd a Diod Cymru, mae’r Clwstwr Cynaliadwyedd yn arddangos busnesau mewn digwyddiadau pwysig fel Sioe Frenhinol Cymru a BlasCymru/Taste Wales, gan ddarparu’r llwyfan perffaith i gysylltu â chynulleidfa eang a hyrwyddo rhinweddau cynaliadwyedd eich cynhyrchion.

5

Cymuned sy'n tyfu

Mae ganddo eisoes dros gant o aelodau o bob rhan o’r diwydiant, ynghyd â chyrff y llywodraeth a 30 o sefydliadau academaidd, ac mae’r Clwstwr Cynaliadwyedd yn tyfu’n barhaus ac yn darparu adnodd gwerthfawr i fusnesau bwyd a diod ffynnu a llwyddo, trwy rannu gwybodaeth ac arfer gorau.

Abinbev2 Min

Sut gall y clwstwr cynaliadwyedd helpu eich busnes

Rydyn ni i gyd wedi teimlo effeithiau chwalfa’r hinsawdd trwy ein bwyd. P’un a yw’n ffermwyr yn profi tywydd anarferol, yn weithwyr proffesiynol y diwydiant yn gwylio costau bwyd yn codi, neu ein cwsmeriaid yn gweld prinder bwyd ar silffoedd archfarchnadoedd.

Mewn byd sy’n fwyfwy ymwybodol o anghenion amgylcheddol y blaned, mae’n dod yn rhagofyniad i gynhyrchwyr bwyd a diod gynhyrchu eu nwyddau gyda chynaliadwyedd ar flaen eu meddwl.

Mae defnyddwyr bellach yn disgwyl i’w bwyd a’u diod gael eu cyrchu a’u darparu’n gynaliadwy, gan ddibynnu ar weithgynhyrchwyr i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Sustainable Strategic Vision Min

Gweledigaeth strategol

Creating A Green Workforce For The Future Min

Gweithlu gwyrdd

Sustainability Tools For Your Business Min

Offer cynaliadwyedd

Wider Support To Help Your Business Meet The Challenges Of The Future Min

Cefnogaeth ehangach

Business Success Stories Min

Straeon llwyddiant