Cefnogaeth ehangach i helpu eich busnes i gwrdd â heriau'r dyfodol

Gyda defnyddwyr heddiw yn ffafrio cyflenwyr sy’n dangos arferion moesegol ac amgylcheddol yn gynyddol, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau rhagweithiol i gefnogi ei busnesau bwyd a diod i gyflawni eu nodau cynaliadwy, ac i elwa ar y manteision dilynol.

Mewn byd sy’n gynyddol gyfarwydd ag anghenion amgylcheddol y blaned, mae’n dod yn rhagofyniad i gynhyrchwyr bwyd a diod fod yn cynhyrchu eu nwyddau gyda chynaliadwyedd ar flaen eu meddwl.

Mae’n debygol yn y tymor hir mai’r manwerthwyr a’r gweithgynhyrchwyr hynny sy’n gallu dangos cyfrifoldeb busnes drwy welliannau cynaliadwy sy’n blaenoriaethu gwerthoedd amgylcheddol, cymdeithasol, iechyd ac ansawdd fydd yn cael eu ffafrio fwyaf gan ddefnyddwyr.

Mae nifer o sefydliadau’n cydweithio i ysgogi newid cadarnhaol a dyma gipolwg ar y cymorth ehangach sydd ar gael.

Spraying 2 Min
Business Logos Food Innovation Wales

Arloesi Bwyd Cymru

Mae’r tair Canolfan Fwyd yng Nghymru, sef y Ganolfan Technoleg Bwyd (gogledd Cymru), Canolfan Bwyd Cymru (canolbarth a gorllewin Cymru) a ZERO2FIVE (de Cymru) yn gweithio’n agos gyda chwmnïau bwyd a diod trwy Brosiect HELIX i’w helpu i dyfu, arloesi, cystadlu a cyrraedd marchnadoedd newydd. Fel rhan o wasanaethau’r canolfannau, gallant helpu busnesau i ddod yn fwy cynhyrchiol a chynaliadwy drwy leihau eu gwastraff prosesau. Mae hyn yn cynnwys edrych ar faterion fel mapio gwastraff, effeithlonrwydd prosesau a chymorth technegol a gweithredol ehangach.

Mae gwasanaethau ehangach yn cynnwys gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth ymarferol, cefnogi cwmnïau i ddatblygu ac ailfformiwleiddio cynhyrchion arloesol o’r cysyniad, dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu hyd at fasged siopa’r defnyddiwr.

Maent yn gweithio gyda chwmnïau Cymreig i ddadansoddi pob cam o’r broses weithgynhyrchu yn fforensig, gan nodi ffyrdd o gyflwyno effeithlonrwydd ar draws rheolaethau prosesau, dylunio safleoedd a datblygu systemau. Mae dull strategol Prosiect HELIX yn galluogi cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru i elwa ar arfer gorau a gwybodaeth y diwydiant o bob rhan o’r byd. Er enghraifft, gall cwmnïau gael cymorth i gyflawni ardystiad trydydd parti fel BRCGS a SALSA, sy’n agor marchnadoedd newydd ar gyfer eu cynhyrchion.

Business Logos Amrc

Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru (AMRC Cymru)

Mae AMRC Cymru yn rhan o Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Prifysgol Sheffield ac yn gweithio gyda Bwyd a Diod Cymru i gefnogi busnesau bwyd a diod gyda’u huchelgeisiau gweithgynhyrchu.

Wrth wraidd y trawsnewid busnes hwn bydd cofleidio potensial technoleg heddiw a gweithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â heriau’r dyfodol trwy wydnwch busnes a chymorth cynaliadwyedd gweithgynhyrchu.

Mae AMRC Cymru yn ymwneud â nifer o brosiectau cynaliadwyedd arloesol yng Nghymru. Mae’r prosiectau sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn cynnwys gweithio gyda’r busnes newydd Polytag i ddatblygu technoleg glyfar, tagio, gwahanu a didoli ar gyfer pecynnu plastig, gyda’r nod o wella’r gallu i’w hailgylchu.

Mae AMRC Cymru hefyd yn cefnogi busnesau i fod yn fwy effeithlon gyda’u prosesau gweithgynhyrchu, gan ddefnyddio technoleg uwch fel Deallusrwydd Artiffisial, efelychiadau digidol, cobotiaid, robotiaid a rhith-realiti i’w helpu i ddod yn fwy effeithlon a chyrraedd eu nodau sero net.

Business Logos Fairshare

FareShare Cymru

Wedi’i sefydlu yn 2010, mae FareShare Cymru yn rhan o rwydwaith o 25 o ganolfannau tebyg ledled y DU, sy’n darparu bwyd o ansawdd sydd dros ben, a fyddai fel arall wedi mynd yn wastraff, i’r rhai mewn angen. Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i waith y cwmni, gan helpu i droi problem amgylcheddol yn ateb cymdeithasol.

Dechreuodd y cwmni ddosbarthu bwyd ym mis Gorffennaf 2011 ac ers hynny mae wedi ymestyn ei ffocws y tu hwnt i ddarparu bwyd yn unig. Gan weithio gyda dros 170 o sefydliadau sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol newyn, a’r cyfan tra’n lleihau effaith amgylcheddol gwastraff bwyd yng Nghymru, mae FareShare Cymru yn ceisio creu atebion parhaol.

Business Logos Wrap

WRAP Cymru

Wedi’i sefydlu yn y DU yn 2000, mae WRAP yn gweithio gyda llywodraethau, busnesau a dinasyddion mewn dros 40 o wledydd i wneud y byd yn lle mwy cynaliadwy drwy fynd i’r afael ag achosion yr argyfwng hinsawdd.

Fel rhan o WRAP, a darparu pecyn gwaith penodol i Gymru, mae WRAP Cymru yn cefnogi nodau amgylcheddol Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn gweithredu’r Rhaglen Newid Gydweithredol, gan gynorthwyo awdurdodau lleol yng Nghymru i gyrraedd y targedau ailgylchu statudol. Yn ychwanegol at hyn mae ymgyrch Ailgylchu Cymru, sy’n annog dinasyddion i fabwysiadu ymddygiadau ailgylchu cadarnhaol.

Mae rhaglenni a phrosiectau eraill y mae WRAP Cymru yn rhan ohonynt yn cynnwys gweithio gyda’r sector cyhoeddus i gynyddu caffael nwyddau cynaliadwy a gweithio drwy’r Gronfa Economi Gylchol a phrosiectau cadwyni cyflenwi i gefnogi’r defnydd o ddeunydd wedi’i ailgylchu mewn gweithgynhyrchu.

Mae Map Llwybr Gwastraff Bwyd Cymru WRAP yn nodi cyfres o ymyriadau a allai sicrhau gostyngiadau mewn gwastraff bwyd ar draws y gadwyn gyflenwi. Mae’r mecanweithiau, a nodwyd mewn adolygiad cynhwysfawr o dystiolaeth, wedi profi eu bod yn gweithio pan gânt eu defnyddio mewn mannau eraill yn y byd.

Business Logos Aberinnovation

ArloesiAber

Wedi’i leoli mewn golygfeydd godidog rhwng Mynyddoedd Cambria a Môr Iwerddon, mae ArloesiAber yn cynnig arbenigedd a chyfleusterau o’r radd flaenaf yn y sectorau biotechnoleg, amaeth-dechnoleg, a bwyd a diod ar ei Gampws Arloesi a Menter.

Gydag amgylchedd delfrydol ar gyfer cydweithio diwydiannol ac academaidd i ffynnu, gall ArloesiAber gyflymu llwybr cwmni i’r farchnad trwy hwyluso datblygiad cynnyrch a phrosesau newydd a lleihau risgiau gweithgareddau ymchwil a datblygu.

Business Logos Fdf

Ffederasiwn Bwyd a Diod Cymru

Mae’r Ffederasiwn Bwyd a Diod yn gymdeithas ddielw sy’n hyrwyddo cynhyrchwyr bwyd a diod ledled Cymru. Mae’n dod â busnesau, y llywodraeth a rhanddeiliaid ynghyd i sicrhau bod gan ein gweithgynhyrchwyr yr amodau cywir i dyfu, buddsoddi a chyflogi, tra’n parhau i gynhyrchu bwyd a diod maethlon a fforddiadwy o ansawdd uchel.

Cefnogir ei gyfraniad gan ragoriaeth gyfunol tîm yr FDF ac mae’n canolbwyntio ar waith penodol i Gymru ym meysydd cystadleurwydd, pontio’r UE, adferiad Covid-19, gweithlu a sgiliau, diet ac iechyd, cynaliadwyedd a thwf diwydiant.

Fel rhan o’i waith, mae’r FDF wedi cynhyrchu Llawlyfr Sero Net ar gyfer rhanddeiliaid y sector a llunwyr polisi sy’n amlinellu sut y mae ef, a’r sector bwyd a diod ehangach, yn cyfrannu at gyflawni sero net. Mae’r llawlyfr yn rhoi arweiniad ymarferol i bob gweithgynhyrchwr bwyd a diod wrth roi eu mapiau trywydd datgarboneiddio eu hunain ar waith.

Business Logos Green

Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd Banc Datblygu Cymru

Mae’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn gweithio i fynd i’r afael yn uniongyrchol â phroblemau cyffredin ac yn darparu pecyn cymorth i fusnesau Cymru sy’n helpu i leihau allyriadau carbon ac yn caniatáu i fusnesau arbed ar filiau ynni yn y dyfodol.

Mae hyn yn cynnwys mynediad at gymorth ymgynghori wedi’i ariannu’n llawn ac yn rhannol sy’n helpu busnesau i ddeall eu llwybr eu hunain at ddatgarboneiddio; cyfraddau llog sefydlog gostyngol ar fenthyciadau busnes gwyrdd ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni a gosodiadau gwres carbon isel; a chyfalaf tymor estynedig, gyda gwyliau ad-dalu cyfalaf ymlaen llaw a thymor benthyciad yn gysylltiedig ag ad-dalu’r prosiect.

Business Logos Toyota

Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota

Mewn partneriaeth â Chanolfan Rheolaeth Ddarbodus Toyota ar Lannau Dyfrdwy, mae Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota yn cynnig cymorth i gwmnïau sydd am wneud gwelliannau cynaliadwy yn eu gallu i gystadlu.

Business Logos Welshgov

Cyllid Yr Economi Gylchol

Gall busnesau o unrhyw faint, sefydliadau ymchwil, sefydliadau trydydd sector a byrddau iechyd gael cyllid i gynyddu’r defnydd o gynnwys wedi’i ailgylchu a’i ailddefnyddio mewn cynhyrchion neu gydrannau neu i ymestyn oes cynhyrchion/deunyddiau.

Helping Your Food And Drink Business Become More Sustainable Min

Clwstwr cynaliadwyedd

Sustainable Strategic Vision Min

Gweledigaeth strategol

Creating A Green Workforce For The Future Min

Gweithlu gwyrdd

Sustainability Tools For Your Business Min

Offer cynaliadwyedd

Business Success Stories Min

Straeon llwyddiant