
Edwards, Y Cigydd Cymraeg

Ellis Eggs

La Crème Patisserie

Llaeth y Llan

Halen Môn

Bragdy Mŵs Piws

Fferm Wenyn Cilgwenyn

The Pudding Compartment

Bay Coffee Roasters

Ancre Hill Estates

Just Love Food Company

Edwards, Y Cigydd Cymraeg
Cwblhaodd Edwards, Y Cigydd Cymreig, y Peilot Lleihau Carbon, a roddodd adnoddau hanfodol ac arweiniad arbenigol i’r cwmni i wella eu harferion cynaliadwyedd yn strategol o fewn y diwydiant bwyd a diod.
Gallwch ddysgu mwy am ei profiad yma.

Ellis Eggs
Rhoddodd y Peilot Lleihau Carbon adnoddau hanfodol ac arweiniad arbenigol i Ellis Eggs gwella ei arferion cynaliadwyedd yn strategol o fewn y diwydiant bwyd a diod.
Gallwch ddysgu mwy am ei profiad yma.

La Crème Patisserie
Cwblhaodd La Crème Patisserie y cynllun peilot Lleihau Carbon, a roddodd offer hanfodol ac arweiniad arbenigol i’r cwmni i wella eu harferion cynaliadwyedd yn strategol o fewn y diwydiant bwyd a diod.
Gallwch ddysgu mwy am ei profiad yma.

Llaeth y Llan
Mae Llaeth y Llan / Village Dairy wedi manteisio ar y Cynllun Peilot Lleihau Carbon i fapio ei allyriadau, gwella cynaliadwyedd, a chryfhau ymddiriedaeth cwsmeriaid gyda mwy o dryloywder.
Gallwch ddysgu mwy am ei profiad yma.

Halen Môn
Wedi’i sefydlu ym 1997 gan Alison a David Lea-Wilson, mae’r cwmni’n parhau i fod yn eiddo i deulu ac wedi llwyddo i ddatblygu a chynnal busnes cynaliadwy, llwyddiannus sy’n cyflogi pobl leol, wedi’i seilio ar egwyddorion amgylcheddol ac addysgol tra hefyd yn denu twristiaid i ardal wledig, arfordirol o Cymru. Mae’r busnes yn hyrwyddo ei staff ac wedi ymrwymo i dalu mwy na’r Cyflog Byw a darparu cymorth proffesiynol, cymdeithasol a lles. Mae ei ddiwylliant busnes yn bwysig iawn i’r tîm.
Mae Halen Môn wedi ymrwymo i yrru’r busnes yn ei flaen tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy wrth iddo symud yn nes at ei amcan o ddim gwastraff i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn trwy gymhwyso egwyddorion ‘Lleihau, Ailddefnyddio ac Ailgylchu’ i bob gwastraff a chyd-gynnyrch.
Ar ôl ennill statws B Corp yn ddiweddar ar ôl arddangos y safonau cymdeithasol ac amgylcheddol uchaf, mae Halen Môn yn defnyddio hyn fel meincnod ar gyfer cynnydd parhaus, gan edrych ar wella arferion o’u defnydd o ynni i ailgylchu gwastraff, ac annog eu staff i gymryd rhan weithredol a gwneud yr hyn a wnânt yn y gwaith, gartref.
Yn dilyn achrediad, maent wedi cyflogi Rheolwr Cyffredinol newydd, a rhan fawr o’u rôl fydd helpu i wella arferion gwaith.

Bragdy Mŵs Piws
Mae Bragdy Mŵs Piws wedi’i leoli yn nhref harbwr Porthmadog yng ngogledd Cymru, ac mae’n cynhyrchu ystod eang o wahanol gwrw mewn casgen a photel a barilan.
Dechreuodd ei daith i gynaliadwyedd a datgarboneiddio yn ystod pandemig Covid 19 pan gafodd y bragdy beth amser i gymryd cam yn ôl ac edrych ar y darlun ehangach i weld cynaliadwyedd fel un o’r elfennau allweddol lle’r oedd eisiau datblygu ei fusnes.
Fe wnaeth yr astudiaeth ddichonoldeb drwy Lywodraeth Cymru helpu Bragdy Mŵs Piws i amlygu rhai meysydd allweddol y gallai wneud newidiadau fel gosod paneli solar, gwell insiwleiddio ar rai o’r llestri bragu a phethau fel symud i gerbydau trydan, boed hynny’n faniau dosbarthu neu’r lori fforch godi.

Fferm Wenyn Cilgwenyn
Enillodd Fferm Wenyn Cilgwenyn Wobr Seren Gynaladwyedd y Dyfodol yn y Ffair Fwyd Arbennig a Chain oherwydd ei hagwedd gyfannol at fusnes ar ôl trawsnewid pwll glo segur yn fferm wenyn newydd sbon, sy’n cynnig mêl carbon-niwtral.
Mae Fferm Cilgwenyn, yn Llangennech, ger Llanelli wedi rhoi nifer o fentrau cynaliadwyedd ar waith yn ei hadeiladau i leihau allyriadau, gan gynnwys creu ei thrydan ei hun drwy ynni’r haul a phlannu digon o goed i wneud iawn am 30 mlynedd o gynhyrchu jariau a chaeadau. Mae’r mêl yn cael ei gyflenwi mewn pecynnau sy’n ailgylchadwy ac wedi’u hailgylchu.
Mae’r mêl yn cael ei gasglu o wenynfeydd gwahanol yng Nghymru – o forfeydd heli Penrhyn Gŵyr i ucheldiroedd Ceredigion. Fodd bynnag, gan nad yw’r cwmni’n defnyddio’r holl drydan y mae’n ei gynhyrchu ac yn ei ddychwelyd i’r grid, mae’r carbon sy’n cael ei arbed yn gwrthbwyso’r allyriadau o ddefnyddio cerbydau.

The Pudding Compartment
Mae The Pudding Compartment yn Sir y Fflint yn pobi danteithion melys ar gyfer y sectorau lletygarwch a manwerthu arbenigol. Mae’n cyflogi 25 o bobl leol, ac mae’r cwmni’n cymryd camau breision i wella ei gymwysterau cynaliadwyedd.
Gyda chymorth y Clwstwr Cynaliadwyedd, mae ôl troed carbon y cwmni wedi cael ei fesur, a nodwyd poptai aneffeithlon a defnydd o becynnau plastig.
Er bod goleuadau LED wedi’u gosod ym mhob rhan o’r adeilad, mae poptai effeithlon a phecynnu gwrthsaim wedi’u cyflwyno, gan arbed arian a’r amgylchedd.
Yn aelod o’r Clwstwr ers 2020, cyflwynwyd y cwmni i AMRC ac mae wedi bod yn gweithio i awtomeiddio ei broses weithgynhyrchu yn llawn i Ddiwydiant 4.0.

Bay Coffee Roasters
Wedi’i leoli yng Ngheredigion, mae Bay Coffee Roasters yn rhostio, pecynnu a dosbarthu coffi yn lleol ac yn genedlaethol. Mae’r coffi’n cael ei fewnforio’n gyfrifol, gan helpu bywydau’r ffermwyr sy’n ei dyfu.
Wedi’i gofrestru gyda Masnach Deg ac Organig, mae’r cwmni’n rhostio coffi gan ddefnyddio trydan a stêm, gyda’r trydan yn dod o gyflenwr ynni 100% adnewyddadwy y gellir ei olrhain gan ddefnyddio cymysgedd o ynni gwynt, dŵr a solar.
Mae’r cwmni wedi derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd gan gynnwys cymorth drwy’r Clwstwr Cynaliadwyedd. Fel aelod o’r Clwstwr, mae’r cwmni’n cael y wybodaeth ddiweddaraf, trwy seminarau ac ar sail un-i-un, gyda gwybodaeth allweddol megis y broses ar gyfer dod yn gwmni B-Corp.

Ancre Hill Estates
Mae Ancre Hill Estates yn cynhyrchu gwinoedd biodynamig ac organig ar ei safle 12 hectar yn Sir Fynwy. Bu’r winllan, ynghyd â thair gwinllan arall o Gymru, yn cymryd rhan yn y prosiect ‘Lleihau’r defnydd o gemegau synthetig yng ngwinllannoedd Cymru’.
Roedd y prosiect yn edrych ar ffyrdd arloesol o ddatgarboneiddio’r gwinllannoedd i wella eu heffeithlonrwydd. Roedd hyn yn cynnwys casglu data, trwy ddefnyddio system dywydd gynhwysfawr a oedd yn caniatáu penderfyniadau mwy gwybodus i amseriad chwistrellau a helpu i gyfyngu ar y defnydd o beiriannau fferm, felly nid yn unig arbed amser ac arian i’r busnesau ond hefyd yn llai niweidiol i’r amgylchedd.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, edrychodd y prosiect hefyd ar sut y gallai’r gwinllannoedd dyfu eu busnesau o ran proffidioldeb a chreu swyddi yn y diwydiant gwin yng Nghymru.

Just Love Food Company
Mae Just Love Food Company yn fusnes yng Nghymru ag iddo ethos clir: creu pwdinau blasus y gall pawb eu mwynhau, yn cynnwys y rheiny ag alergeddau neu gyfyngiadau dietegol. Mae eu casgliad o gacennau a danteithion ‘heb’ (‘free from’) yn adlewyrchu ymrwymiad i gynwysoldeb heb amharu ar flas.
Wrth i’r galw gynyddu, roedd y llinell gynhyrchu yn wynebu heriau. Gosodwyd offer newydd ond creodd gosod yr offer hwn rwystrau ar gyfer llinellau eraill. Roedd rhaid i gynhyrchion gael eu symud o gwmpas y _atri â llaw, gan arafu pecynnu a lleihau e_eithlonrwydd cyffredinol. Er bod y tîm yn gweithio’n galed i gadw pethau’n symud, roedd y cynllun yn cyfyngu ar ei allu i ehangu.
Trwy Raglen Twf Bwyd a Diod Cymru, daeth y cynghorydd David Languerand â safbwynt newydd a blynyddoedd o brofiad. Trwy gadw’n llym at y rheolau, asesodd David y drefn bresennol a datblygodd gynllun ar gyfer cynllun newydd a oedd yn gwneud defnydd gwell o’r lle oedd ar gael. Llwyddodd ei argymhellion i ddatrys mater iechyd a diogelwch allweddol, a galluogodd i beiriant pecynnu gael ei integreiddio, a oedd yn symleiddio gweithrediadau ac yn galluogi dau aelod o’r tîm i gael eu pennu i rolau a oedd yn gweddu’n well i’w sgiliau. Sicrhaodd y newid hwn £42,000 mewn arbedion blynyddol tra’n cadw arbenigedd gwerthfawr staff. Ochr yn ochr â hyn, cyflwynwyd peiriant lapio llif, gan agor sianeli gwerthu newydd gyda chyfanwerthwr a manwerthwr mawr. Rhagamcenir y bydd hyn yn cynhyrchu £500,000 erbyn 2027.
Ysgogodd David welliannau i brosesau hefyd, gan leihau gwastraff ar linell dymhorol o 20% i 3%, gan arwain at arbedion blynyddol o £20,000 mewn deunyddiau crai a llafur. Cyflwynodd ddull adolygu gwastraff llawn, gan wella’r gostyngiad mewn gwastraff cyffredinol, a bu’n mentora Rheolwr y Ffatri, Kirsty Parsons, gan ychwanegu gwerth ansoddol trwy rannu ei flynyddoedd o arbenigedd mewn rheoli llinellau cynhyrchu a datblygu cynnyrch newydd. Dywed Kirsty: “Mae profiad David wedi bod yn anhygoel. Mae ei fentora wedi rhoi mewnwelediadau ymarferol a hyder i mi reoli cynhyrchu’n fwy effeithiol. Mae dysgu gan rywun â’I wybodaeth fanwl wedi bod yn gaffaeliad go iawn i mi a’r busnes.”
Gyda’i gilydd, llwyddodd y mentrau hyn i wella effeithlonrwydd gweithredol, lleihau costau a datgloi cyfleoedd twf sylweddol i Just Love Food.
Mae’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Mike Woods, yn myfyrio ar yr effaith: “Mae’r Rhaglen Twf wedi bod yn hynod werthfawr. Helpodd arbenigedd David ni i ddatgloi effeithlonrwydd, lleihau costau a chreu cynllun sy’n gweithio ar gyfer ein cynlluniau twf. Mae’r niferoedd yn siarad drostyn nhw eu hunain, £42k o arbedion blynyddol, £20k o ostyngiad mewn gwastraff, a sianelau gwerthiant newydd sy’n werth hanner miliwn erbyn 2027. Mae ei fentora wedi cryfhau ein tîm ac wedi rhoi hyder i ni ar gyfer y dyfodol.”
Yn Barod i Ehangu Eich Busnes?
Ydych chi’n wynebu cyfyngiadau capasiti sy’n effeithio ar gynhyrchiant yn eich busnes bwyd neu ddiod? Cysylltwch â Rhaglen Twf Bwyd a Diod Cymru i siarad â chynghorydd: bwyd-food@bic-innovation.com

Clwstwr cynaliadwyedd

Gweledigaeth strategol

Gweithlu gwyrdd

Cefnogaeth ehangach
