Bwyta cynaliadwy – arbed amser, arian a’r blaned…

Croeso i’n hadnodd syml sy’n ceisio cynnig cyngor campus ar sut i leihau eich gwastraff bwyd, deunydd pecynnu, a’ch defnydd o ynni yn y gegin. Rydyn ni hefyd wedi datblygu ryseitiau ‘dim gwastraff’ ac wedi creu partneriaeth â’r eco-gogydd Tom Hunt ar brydau blasus eraill efallai yr hoffech roi cynnig arnynt gartref.

Amdanon ni…

Mae Bwyd a Diod Cymru yn is-adran o Lywodraeth Cymru ac mae ganddi weledigaeth ‘egin gwyrdd’ gyda’r nod o greu ‘un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd’.

Gallwn ni i gyd wneud ein rhan a gobeithiwn y gallai rhywfaint o’r cyngor ar y tudalennau hyn ychwanegu at eich gwybodaeth bresennol a’ch helpu i arbed amser, arian a’r blaned.

Tom Hunt

Mwy am Tom…

Er ein bod ni i gyd eisiau bwyta’n fwy cynaliadwy mae’n anodd anwybyddu cyd-destun ehangach biliau ynni uwch a’r cynnydd cyflym mewn costau bwyd.

Dyna pam mai un o’r bobl rydyn ni’n cydweithio ag ef yw’r eco-gogydd Tom Hunt er mwyn rhannu ei syniadau ar arbed arian ac amser, tra’n helpu ein planed trwy goginio’n glyfar.

Fel y dywed Tom, ‘meddyliwch am y canllaw hwn fel man cychwyn i’ch helpu i fwyta er pleser, pobl a’r blaned.’

Mae Tom wedi gweithio gyda bwyd drwy gydol ei oes ac mae’n coginio gyda’i deulu bob dydd, gan roi’r bwyd gorau y gall iddynt ar gyllideb. Mae ei brofiad o weithio fel newyddiadurwr ac ymgyrchydd bwyd wedi ei ddysgu bod gan y ffordd rydyn ni’n bwyta’r pŵer i wella nid yn unig ein hiechyd, ond iechyd ein cymunedau, a hyd yn oed yr amgylchedd. Mae popeth wedi’i gysylltu trwy ein gwe fwyd, y lleoliadau o ble mae ein cynhwysion yn dod a sut daethon nhw atom.

O fwyta – lle bo’n bosibl – yn dymhorol, i wneud eich cynhyrchion glanhau eich hun, mae canllaw cychwynnol i’r cyfan i’w gael yn y pecyn cymorth hwn y gellir ei lawrlwytho.

Rydyn ni hefyd wedi datblygu siart wal tymhorol efallai yr hoffech ei weld.

Tom Hunt

Rhwydd hynt trwy ddechrau da…

Dechreuwch yn syml gyda newidiadau cymedrol i’ch arferion coginio a phrynu a chyn pen dim byddwch yn meddwl am eich syniadau eich hun am sut i arbed amser, arian a’r blaned.

 

Mwynhewch ddarllen a bwyta….

Welsh Landscape

Lawrlwythwch y Pecyn Cymorth Cynaliadwyedd

Parsnip Soup

Deg ffordd i atal gwastraff

Table setting of food

Ryseitiau