Selsig Morgannwg

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 16 selsig
Glamorgan Sausages Frying Min

Cynhwysion

  • 225g briwsion bara ffres
  • 125g caws wedi’i gratio
  • 3 ŵy maes canolig eu maint
  • ychydig o laeth
  • pupur gwyn a halen
  • ½ llond llwy de mwstard sych
  • 175g cennin wedi’u torri’n stribedi main a’u ffrio’n ysgafn mewn ychydig o fenyn am 2 funud
  • 1 llond llwy fwrdd lawn o bersli ffres wedi’i dorri’n fân

Côt

  • 100g briwsion ffres
  • 1 ŵy maes canolig ei faint
  • 4 llond llwy fwrdd llaeth

 

Olew llysiau ar gyfer ffrϊo

Caws Caerffili a ddefnyddir yn y rysáit hon yn draddodiadol. Efallai yr hoffech ychwanegu cynhwysion gwahanol – byddai winwns coch, olifau a thomatos heulsych wedi’u torri’n fân a chaprys bach yn rhoi blas ardal Môr y Canoldir i’r pryd. Defnyddiwch y gymysgedd hon yn lle’r cennin. Defnyddiwch fasil yn lle persli ac ychwanegwch berlysiau wedi’u torri’n fân i’r briwsion bara. Ffrïwch mewn olew olewydd ysgafn.

Dull

  1. Rhowch y briwsion bara, y caws, yr halen a’r pupur, y mwstard, y cennin a’r persli mewn dysgl a’u cymysgu’n dda.
  2. Curwch yr wyau a’u hychwanegu at y cynhwysion. Cymysgwch i wneud toes eithaf trwchus. Efallai y bydd angen ychydig o laeth os yw’r gymysgedd yn rhy sych.  Rhannwch y gymysgedd yn 16 a gwneud siapiau selsig.
  3. Does dim rhaid rhoi côt am y selsig ond mae yn eu gwneud yn grispyn hyfryd. Curwch yr ŵy ac ychwanegu’r llaeth.  Rhowch y briwsion ar blât gydag ychydig bach o bupur a halen.  Rholiwch bob selsigen yn y gymysgedd, draeniwch am dipyn a’u rholio yn y briwsion bara.  Rhowch y selsig yn yr oergell am awr.
  4. Cynheswch ffreipan gyda gwaelod trwm. Ychwanegwch ychydig o olew. Rhowch y selsig i mewn fesul tipyn a’u coginio dros wres cymedrol-isel hyd nes bod lliw euraid drostynt.  Dylid ffrio’r selsig yn ysgafn.  Os bydd y gwres yn rhy uchel fe fyddan nhw’n brownio’n rhy gyflym, cyn iddyn nhw goginio trwyddynt.