Frittata sbarion llysiau rhost

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 10 mun
  • Ar gyfer 4
roast veg frittata

Bydd angen

  • 1 joch dda olew olewydd golau
  • 1 winwnsyn mawr, wedi’i blicio a’i sleisio’n fân
  • Hyd at 500g sbarion tatws, moron, pannas, gwrd rhost a.y.y.b., wedi’u torri’n fras i giwbiau mân 3-5cm
  • Pupur du a halen
  • 3 wy, wedi’u curo’n ysgafn a’u sesno
  • 3 sbrigyn persli dail gwastad, coesynnau wedi’u torri’n fân, dail wedi’u torri’n fras – cofiwch – o’r gwreiddiau i’r ffrwythau!

Rysáit a ddatblygwyd gan yr eco-gogydd Tom Hunt

Mae frittata yn bryd amlbwrpas y gellir ei wneud unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae’n gyflym ac yn hawdd i’w wneud ac rwy’n hoff iawn ohono oherwydd gallwch ei wneud gyda sbarion tatws rhost, moron, gwrd, ysgewyll neu unrhyw lysiau wedi’u coginio! Mae hefyd yn gyflym ac yn hawdd iawn.


Dull

  1. Cynheswch joch o olew olewydd golau mewn padell ffrio dros wres canolig.
  2. Ffriwch y winwnsyn yn araf nes ei fod wedi’i garameleiddio’n feddal ac yn frown, yna ychwanegwch y llysiau sydd dros ben a’u sesno’n dda.
  3. Dosbarthwch y llysiau’n gyfartal o amgylch y badell ac yna arllwyswch yr wyau i mewn.
  4. Trowch y gwres i lawr yn isel a choginiwch nes bod yr wy wedi caledu bron yn berffaith, ond dal ychydig yn feddal.
  5. Gweinwch gyda phersli dail gwastad wedi’i dorri ar ei ben.