Crempogau las

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 25 mun
  • Ar gyfer 12 crempog
Green Pancakes Min

Cynhwysion

  • 200g blawd plaen
  • Pinsiad o Halen Môn (PDO)
  • 2 lwy fwrdd persli ffres, wedi’i dorri’n fân
  • 1 llwy fwrdd cennin syfi, wedi’i dorri’n fân
  • 1 llwy fwrdd Bara Lawr (PDO) ∆
  • 2 ŵy mawr, wedi’u gwahanu
  • 284ml llaeth enwyn neu iogwrt naturiol
  • 100ml llaeth
  • Talp o fenyn

Dull

  1. Hidlwch y blawd a’r halen i fowlen, ychwanegwch y perlysiau a’r bara lawr a chymysgwch y cyfan gyda’i gilydd. Gwnewch ffynnon yn y canol ac ychwanegwch y melynwy, y llaeth enwyn a’r llaeth a’i gymysgu’n dda.
  2. Curwch y gwynwy nes eu bod yn ffurfio brigau meddal a phlygu i mewn i’r cymysgedd yn ysgafn I cadwch y cymysgedd yn ysgafn.
  3. Toddwch ychydig o fenyn mewn padell ffrio dros wres canolig a ffriwch lwyaidau o’r cymysgedd am tua munud bob ochr. Cadwch yn gynnes a gweinwch naill ai gyda menyn neu bacwn creisionllyd neu Ham Caerfyrddin (PGI) a thomatos wedi’u rhostio.