Croquetas sbarion pysgod

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 25 mun
  • Ar gyfer 4
fish scrap croquettes

Bydd angen

  • 1 llwy de halen môr
  • 90g briwgig pysgod
  • 150g tatws blodiog (E.g. Desiree, King Edward,
  • Maris Piper)
  • 2 shibwnsyn, wedi’u torri’n giwbiau mân
  • 2 sbrigyn persli, coesynnau wedi’u torri’n fân, dail wedi’u torri’n fras
  • Pinsiad haenau tsili
  • 1 wy bach
  • Pupur du mal ffres
  • 3 llwy fwrdd briwsion bara (dewisol)
  • Talpiau lemon, i weini

Rysáit gan yr eco-gogydd Tom Hunt

Yn gwneud 12 croquette

Mae croquettes yn ffefryn gen i. Rydw i wedi bod yn eu gwneud ers fy nyddiau cyntaf yn coginio bwyd mewn arddull Sbaenaidd gyda fy mhrif gogydd cyntaf ‘nôl yn 1997. Mae’r rysáit yma yn dro ar yr un roedden ni’n ei gwneud gyda phenfras halen. Mae halltu’r briwgig pysgodyn a’i adael i orffwys cyn ei goginio yn cryfhau’r gwead ac yn rhoi blas tebyg i’r croquette Sbaenaidd iddo.

Bydd prynu pysgod cyfan a’u ffiledu neu ffiledu pysgod gartref fel arfer yn sicrhau pysgod mwy ffres a mwy blasus na phrynu ffiled a allai fod wedi’i ffiledu ddyddiau ynghynt.

Arbedwch amser a gwnewch y cymysgedd hyd at 24 awr ymlaen llaw fel y gallwch siapio a ffrio’r croquetas pan fyddwch chi’n barod i’w gweini.

Gan fod y rysáit hon ar gyfer nifer bychan o croquettes, dim ond un daten sydd ei hangen arnoch i’w stemio neu ferwi. Ystyriwch goginio digon o datws i’w gweini fel saig ar wahân ochr yn ochr â’r pryd yma neu i’w hailgynhesu’n ddiweddarach i arbed ynni a defnyddiwch sosban o faint priodol bob tro i atal gwastraff ynni.


Dull

  1. Cymysgwch lwy de o halen môr i mewn i 90g o friwgig pysgod a’i adael mewn colandr dros bowlen i ddraenio am 15 munud.
  2. Yn y cyfamser, mewn padell fach, stemiwch neu berwch daten wedi’i thorri’n giwbiau mân am 10 munud neu nes ei bod yn feddal.
  3. Gadewch hi i orffwys nes ei bod yn ddigon oer i’w thrin, yna stwnshiwch hi gydag un shibwnsyn wedi’i dorri’n giwbiau mân iawn, dau sbrigyn o bersli, wedi’u torri’n fân o’r coesyn i’r ddeilen a phinsiad o haenau tsili.
  4. Gwasgwch unrhyw leithder allan o’r briwgig pysgod ac yna ychwanegwch wy bach i’r cymysgedd tatws.
  5. Addaswch y sesnin at eich dant, gan ychwanegu pupur du a mwy o haenau tsili os hoffech.
  6. Os yw’r cymysgedd yn wlyb ychwanegwch 3 llwy fwrdd o friwsion bara i greu gwead hydrin.
  7. Rhowch yn yr oergell am o leiaf 30 munud, yna rhannwch y cymysgedd yn 12, gan siapio pob un yn siâp pêl rygbi gan ddefnyddio dwy lwy fwrdd.
  8. Cynheswch badell ffrio fach gyda 5mm o olew yn y gwaelod dros wres canolig.
  9. Unwaith y bydd yn boeth, ffriwch y croquettes mewn sypiau, gan eu troi’n achlysurol am tua 3-5 munud neu nes bod y croquettes yn frown euraidd.
  10. Gweinwch yn boeth gyda thalpiau lemon.