Bara brith

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 1 awr
  • Ar gyfer 8-10 tafell
Bara Brith In Tin Min

Cynhwysion

  • 400g ffrwythau sych cymysg (resins, syltanas, cwrents)
  • 300ml tê twym cryf
  • 250g blawd codi
  • 1 tsp sbeis cymysg
  • 100g siwgr muscovado brown tywyll
  • 1 ŵy, wedi’i guro
  • mêl i roi sglein arno

Torth burum gyda ffrwythau yw’r rysáit traddodiadal am farabrith er mai rysáit tebyg i hon caiff ei weini erbyn hyn. Mae’r gacen yn un llaith ac yn cadw am beth amser gan bod y ffrwythau wedi’u mwydo mewn te dros nos.

Dull

  1. Rhowch y ffrwythau sych cymysg mewn powlen gymysgu, arllwyswch y tê drostynt, ychwanegwch y siwgr i’r gymysgedd a chymysgu’n dda nes bod y siwgr wedi toddi. Gadewch am o leiaf 6 awr neu dros nos.
  2. Drannoeth, hidlwch y blawd a’r sbeis i mewn at y gymysgedd (nid oes angel cael gwared o’r te) ac ychwanegwch yr ŵy. Cymysgwch yn dda.
  3. Leiniwch dun 900g gyda phapur gwrthsaim a rhowch y gymysgedd yn y tun.
  4. Pobwch mewn ffwrn wedi’i chynhesu i 180°C/Nwy 4 am tua awr nes fod y dorth wedi codi a wedi’i choginio drwyddi. Gadewch i oeri ar hambwrdd oeri a chadwch hi am 2 ddiwrnod cyn ei bwyta. Gweinwch gyda menyn.
  5. Gellir dwbli’r maint i wneud 2 dorth a gellir eu cadw am 7 niwrnod.
  6. Os am sglein cynheswch ychydig o fêl i wasgaru dros wyneb y gacen gynnes.