Ebrill 2026
Cyflwyniad/cefndir
Mae Llywodraeth Cymru (is-adran fwyd) wedi penodi BIC Innovation a’i phartneriaid technegol, Greener Edge ac Ecostudio, fel partneriaid cyflawni ar gyfer Gwasanaeth Sicrwydd Bwyd sy’n Gwydn i’r Hinsawdd a’r Gwasanaeth Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru.
Llywodraeth Cymru yw Rheolydd Data unrhyw ddata personol a brosesir at ddibenion y rhaglen hon, a bydd BIC Innovation yn gweithredu fel y Prosesydd Data.
Er mwyn i’ch busnes elwa o’r gwasanaethau hyn, mae’n ofynnol i’n partneriaid cyflawni gasglu gwybodaeth gennych chi. Bydd y wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth bersonol a gwybodaeth berthnasol am eich busnes a fydd yn galluogi’r partneriaid i roi’r cyngor a’r wybodaeth briodol i chi. Nid oes rheidrwydd arnoch i rannu’r wybodaeth hon, ond bydd methu â gwneud hynny’n golygu ei bod yn annhebygol y byddwch chi a’ch busnes yn gallu elwa’n llawn o’r Gwasanaeth Sicrwydd Bwyd sy’n Gwydn i’r Hinsawdd a/neu’r Gwasanaeth Cynaliadwyedd.
Beth yw’r sail gyfreithlon dros brosesu?
Bydd data’n cael ei brosesu o dan Erthygl 6(1)(e) o Reoliad GDPR y DU fel rhan o dasg gyhoeddus Llywodraeth Cymru i gefnogi a hyrwyddo’r diwydiant bwyd yng Nghymru. Sefydlir y dasg gyhoeddus yn adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Pam rydym yn casglu ac yn prosesu’r data a gesglir?
Er mwyn cymryd rhan yn y Gwasanaeth Sicrwydd Bwyd sy’n Gwydn i’r Hinsawdd a/neu’r Gwasanaeth Cynaliadwyedd, a chael cymorth drwy’r naill wasanaeth neu’r ddau wasanaeth, mae’n rhaid i’n partneriaid cyflawni gasglu gwybodaeth gennych chi. Bydd y wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth bersonol a gwybodaeth berthnasol am eich busnes a fydd yn galluogi’r partneriaid cyflawni i deilwra’r gwasanaethau a’r cymorth a gewch, ac i gasglu adborth am ddarparu’r gwasanaethau. Ni ddefnyddir unrhyw broses gwneud penderfyniadau awtomataidd na phroffilio fel rhan o’r rhaglen hon.
Gall y wybodaeth hon hefyd gael ei defnyddio i gefnogi a rheoli ceisiadau am gymorth ariannol neu grant a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, lle mae hyn yn gysylltiedig â’r gwasanaethau rydych yn eu derbyn neu’n gwneud cais amdanynt.
Pa ddata fydd yn cael ei gasglu?
Bydd yr wybodaeth bersonol a gesglir yn cynnwys eich enw, eich cyfeiriad a’ch manylion cyswllt (e.e. e-bost, rhif ffôn). Efallai y bydd angen gwybodaeth berthnasol am eich busnes hefyd, megis gwybodaeth am eich safleoedd, cynhyrchion, cadwyn gyflenwi, gweithrediadau, prosesau, allyriadau carbon, a data busnes ac ariannol, er mwyn helpu i deilwra’r gwasanaethau i’ch anghenion penodol.
Gan y bydd eich data hefyd yn cael ei ddefnyddio i fonitro ac adrodd ar nifer yr unigolion a’r busnesau sy’n cymryd rhan yn y Gwasanaeth Sicrwydd Bwyd sy’n Gwydn i’r Hinsawdd a/neu’r Gwasanaeth Cynaliadwyedd, gall hyn gynnwys gwybodaeth a gyflwynir fel rhan o geisiadau am gymorth ariannol neu grant Llywodraeth Cymru, gan gynnwys gwybodaeth sydd ei hangen i asesu cymhwystra a’r canlyniadau sy’n gysylltiedig â’r cymorth hwnnw.
Pwy fydd yn cael mynediad at eich data?
Mae mesurau technegol a threfniadol priodol ar waith i gadw eich data’n ddiogel, gan gynnwys storio diogel (a gefnogir gan achrediad Cyber Essentials), rheolaethau mynediad (Dilysu Dau Ffactor), a systemau wedi’u hamgryptio.
Gallwn ddefnyddio gwybodaeth a data a gesglir fel rhan o’r Gwasanaeth Sicrwydd Bwyd sy’n Gwydn i’r Hinsawdd a/neu’r Gwasanaeth Cynaliadwyedd i ddatblygu astudiaethau achos er mwyn tynnu sylw at y gwasanaethau a chymorth ehangach Llywodraeth Cymru neu eu hyrwyddo. Byddwn bob amser yn cysylltu â chi cyn creu unrhyw astudiaeth achos ac yn egluro pa wybodaeth fydd yn cael ei rhannu.
Mewn amgylchiadau cyfyngedig, gall Llywodraeth Cymru rannu gwybodaeth gyda chontractwyr penodedig eraill sy’n darparu rhaglenni Bwyd a Diod Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru a/neu BIC Innovation bob amser yn eich cynghori cyn rhannu eich gwybodaeth bersonol.
Gall Llywodraeth Cymru rannu gwybodaeth bersonol a busnes berthnasol yn fewnol, neu gyda phartneriaid cyflawni penodedig, lle bo hynny’n angenrheidiol i gefnogi gweithrediad y gwasanaethau neu oruchwyliaeth cymorth ariannol neu grant. Er enghraifft, gall enwau cwmnïau (a manylion cyswllt perthnasol megis cyfeiriadau e-bost) sydd â chynllun lleihau carbon ar waith neu sydd wedi cael hyfforddiant gwydnwch hinsawdd gael eu rhannu gyda’r contractwr sy’n darparu’r Rhaglen Ymgysylltu â’r Fasnach. Mae hyn yn galluogi gwaith cydgysylltiedig er mwyn hyrwyddo rhinweddau cynaliadwyedd a gwydnwch hinsawdd gweithgynhyrchwyr bwyd a diod i gwsmeriaid a phrynwyr masnachol.
Am ba hyd ydyn ni’n cadw eich data?
Bydd eich data’n cael ei gadw drwy gydol cyfnod contract y Gwasanaeth Sicrwydd Bwyd sy’n Gwydn i’r Hinsawdd a’r Gwasanaeth Cynaliadwyedd. Bydd data’n cael ei ddileu o systemau’r contractwr (a/neu’n cael ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru os gofynnir amdano) ar ddiwedd y contract.
Beth rydyn ni’n ei wneud gyda’ch data
Bydd eich data’n cael ei ddefnyddio i fonitro ac adrodd ar nifer y busnesau sy’n manteisio ar y gwasanaethau hyn.
Efallai y bydd contractwr penodedig hefyd yn cysylltu â chi i gymryd rhan mewn ymchwil neu werthusiad o’ch profiad o’r naill wasanaeth neu’r ddau wasanaeth. Bydd diben y cyfweliad neu’r arolwg yn cael ei egluro i chi, a byddwch yn cael yr opsiwn i ddweud ‘ie’ neu ‘na’ cyn cymryd rhan. Dim ond y contractwr penodedig fydd yn defnyddio eich manylion cyswllt, a byddant yn cael eu dileu ar ôl i’r ymchwil gymeradwy gael ei chwblhau.
Eich hawliau chi
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol:
- Bydd eich data’n cael ei storio a’i brosesu yn y DU ac ni fydd yn cael ei drosglwyddo’n rhyngwladol.
- Cael gweld copi o’ch data eich hun.
- Mynnu ein bod ni’n cywiro gwallau yn y data hynny.
- Yr hawl i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau).
- Yr hawl i gael eich data wedi’i ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau).
- Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef rheoleiddiwr annibynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu data.
Manylion cyswllt
Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk
I gael rhagor o eglurhad ynghylch defnyddio eich data ar gyfer y Gwasanaeth Sicrwydd Bwyd sy’n Gwydn i’r Hinsawdd neu’r Gwasanaeth Cynaliadwyedd, gallwch gysylltu â:
Claudia.Guy@gov.wales
Edel.Moroney@gov.wales
tracey.jones3@gov.wales
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales