Pam ddylai fy musnes addasu i newid yn y hinsawdd?
Mae busnesau gweithgynhyrchu bwyd a diod yn ymdrechu i reoli eu gweithrediadau mewn ffyrdd cynaliadwy. O leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, gwella effeithlonrwydd ynni yn y broses weithgynhyrchu, a lleihau’r defnydd o ddŵr, i adolygu polisïau cyrchu ar gyfer deunyddiau crai a phecynnu — mae busnesau’n gweithredu i liniaru eu heffeithiau amgylcheddol ac arafu’r gyfradd newid hinsawdd.
Fodd bynnag, er gwaethaf yr ymdrechion ar y cyd hyn, mae newid yn y hinsawdd yn rhywbeth na ellir ei osgoi bellach ac fe fydd yn parhau i effeithio ar Gymru yn y blynyddoedd i ddod. Felly mae’n bwysig, wrth i ymdrechion i liniaru newid yn y hinsawdd barhau, bod eich busnes hefyd yn addasu i’r risgiau a’r cyfleoedd sy’n codi.
Er mwyn annog busnesau i ddod yn fwy ymwybodol o’r hinsawdd yn eu gweithgareddau beunyddiol, rydym wedi datblygu cyfres o fodiwlau hyfforddiant i roi cymorth ymarferol i ddatblygu’r sgiliau a’r dulliau sydd eu hangen i ymdopi’n llwyddiannus â digwyddiadau annisgwyl.
Asesiad Parodrwydd i Addasu i’r Hinsawdd
Cymerwch ein diagnostig asesu cyflym i werthuso pa mor barod ydych chi ar gyfer effeithiau newid hinsawdd ar eich busnes bwyd neu ddiod. Nid oes angen cofrestru. Bydd yr asesiad hwn yn helpu eich busnes i nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu o ran parodrwydd ar gyfer yr hinsawdd, gyda rhai cwestiynau hefyd yn mynd i’r afael â chamau gweithredu presennol i liniaru allyriadau carbon.
Sut i ddefnyddio’r modiwlau hyfforddiant
Mae’r modiwlau hyfforddiant wedi’u cynllunio fel canllawiau i’ch helpu i asesu eich busnes yng nghyd-destun newid yn y hinsawdd.
Er bod pob busnes bwyd a diod yn unigryw, gobeithiwn y bydd dewis a gweithredu ar y modiwlau mwyaf perthnasol i’ch busnes yn eich helpu i greu fframwaith i benderfynu pa addasiadau sydd eu hangen i wneud eich busnes yn fwy gwydn i newid hinsawdd — yn awr ac yn y dyfodol.
Drwy gydol y modiwlau fe welwch enghreifftiau, cyfeiriadau a dolenni i restrau gwirio a thempledi y gellir eu golygu i’ch cynorthwyo wrth asesu a gweithredu’r newidiadau a ddymunir yn eich busnes.

Y Canllaw Hanfodol i Barhad Busnes mewn Hinsawdd sy'n Newid
Sicrhau Bod Eich Busnes Bwyd a Diod yn Barod ar gyfer yr Hinsawdd

Modiwl 1
Cyflwyniad i Addasu i Newid yn y Hinsawdd

Modiwl 2
Cyflwyno Rheoli Risg a Newid ac ymagwedd CCACCP

Modiwl 3
Safleoedd a Mynediad

Modiwl 4
Gweithgynhyrchu a Chynhyrchu Bwyd
Modiwl 5
Cadwyni Cyflenwi a Mewnbynnau Busnes

Modiwl 6
Ystyriaethau Ariannol a Chyfreithiol
Modiwl 7
Staff a Darparwyr Gwasanaeth

Modiwl 8
Cwsmeriaid a Defnyddwyr

Clwstwr cynaliadwyedd

Gweledigaeth strategol

Straeon llwyddiant

Cefnogaeth ehangach
