Bwyd â

‘Gwreiddiau Cymunedol’

Mae bwyd yn golygu mwy na bwyta. Mae’n golygu pobl, lleoedd a chysylltiad dyfnach â lle mae ein bwyd yn dod.

Mae Partneriaethau Bwyd Lleol neu brosiectau bwyd cymunedol yn dod â phobl ynghyd – cymdogion, tyfwyr, cynghorau a grwpiau cymunedol – i wireddu hynny. O erddi cymunedol i rannu prydau bwyd, maen nhw’n adeiladu rhywbeth go iawn ledled Cymru.

Parhewch i ddarllen i gael eich ysbrydoli i ymuno â – neu ddechrau – prosiect bwyd cymunedol. Gyda llawer iawn o waith da eisoes yn digwydd, dyma’ch cyfle i fod yn rhan o’r chwyldro bwyd cymunedol.

Dewiswch gynnyrch lleol. Dewiswch gymuned. Dewiswch fwyd ‘â Gwreiddiau Cymreig’.

Dod â chymunedau ynghyd trwy gariad at fwyd a natur

Mae Teml Shree Swaminarayan yn Grangetown, Caerdydd, teml Hindŵaidd hynaf a mwyaf Cymru, wedi bod yn ganolbwynt i fywyd diwylliannol, ysbrydol a chymdeithasol ers tro byd. Beth fyddai’n bosibl pe bai gan y gymuned dir ei hun i feithrin, tyfu bwyd a chreu gofod cynhwysol i’w rannu ar gyfer pawb? Y cwestiwn hwnnw oedd y sbardun i daith sydd bellach wedi trawsnewid yn fferm gymunedol anhygoel 66 erw y tu allan i Gaerdydd.

2024 03 19 Phw Food Partnerships Swansea 0178

Y gymuned wrth wraidd system fwyd well

Yng Nghymru, mae gan bob awdurdod lleol Bartneriaeth Bwyd Lleol, ynghyd ag amrywiaeth o brosiectau bwyd cymunedol eraill. 

Maen nhw’n dod â phobl, grwpiau a busnesau ynghyd trwy weithgareddau fel gerddi cymunedol, hybiau bwyd, rhannu prydau bwyd a mentrau bwyd lleol. Ymhlith buddion niferus rhwydweithiau bwyd cymunedol mae:

  • Cryfhau cysylltiadau cymunedol
  • Dysgu am fwyta cynaliadwy
  • Cefnogi traddodiadau bwyd amrywiol
  • Sicrhau nad yw bwyd da’n cael ei wastraffu

Gallwch ddysgu mwy am eich Partneriaeth Bwyd Lleol eich hun trwy ymweld â thudalen Synnwyr Bwyd Cymru.

Buddion prosiectau bwyd cymunedol

Mae bwyd yn cael ei weld fwyfwy nid yn unig fel rhywbeth rydyn ni’n ei fwyta, ond fel ffordd bwerus o gryfhau cymunedau, cefnogi busnesau lleol a gofalu am y tir. O ddinasoedd i ardaloedd gwledig, mae pobl yn ailgysylltu â lle mae bwyd yn dod er mwyn ail-lunio’r system fwyd leol, fel ei bod yn gweithio’n well i bobl, ein llefydd a’r blaned.

Rhwydweithiau bwyd cymunedol

Ailgysylltu â’r tir sy’n ein bwydo. Mae’r newid hwn yn cael ei yrru gan gymunedau, ffermwyr, mentrau cymdeithasol, awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol yn gweithio gyda’i gilydd.

Amaethyddiaeth â Chymorth Cymunedol

Partneriaeth rhwng fferm a chymuned leol yw amaethyddiaeth â chymorth cymunedol. Mae aelodau’n talu ymlaen llaw am gyfran o’r cynhaeaf ac yna’n derbyn bwyd yn rheolaidd drwy gydol y tymor.

Marchnadoedd ffermwyr cymunedol

Mae ymweld â’ch marchnad ffermwyr leol yn cynnig nifer o fuddion i chi, eich cymuned, a system fwyd Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys gwybod o ble mae eich bwyd yn dod, prynu beth sydd yn ei dymor a dathlu treftadaeth fwyd gref Cymru.

Cyfleoedd ffermio trefol

Mae ffermio trefol yn trawsnewid mannau heb eu defnyddio’n ddigonol fel rhandiroedd, lleiniau gwag, toeau, a thir cymunedol yn ardaloedd tyfu. O Gaerdydd i Gaernarfon, mae cymunedau’n adennill mannau i dyfu bwyd yn lleol.

Mwy o ffyrdd i wneud newid cadarnhaol

P’un a ydych chi eisiau dysgu mwy am sut y gall newidiadau bob dydd i’ch arferion bwyd wneud gwahaniaeth mawr, neu eich bod yn berchennog busnes sy’n awyddus i wneud gwelliannau sy’n fuddiol i’r blaned a’ch elw, mae llawer mwy o adnoddau y gallwch eu defnyddio.

Vegetables

Gwreiddiau Cymreig

Header Image Min

Cynaliadwyedd ar gyfer eich busnes

Food Drink Wales logo
Trosolwg Preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis fel y gallwn roi'r profiad defnyddiwr gorau posibl i chi. Mae gwybodaeth cwcis yn cael ei storio yn eich porwr ac mae’n cyflawni swyddogaethau fel eich adnabod pan fyddwch yn dychwelyd i’n gwefan a helpu ein tîm i ddeall pa adrannau o’r wefan sydd fwyaf diddorol a defnyddiol i chi.