Adnoddau ar gyfer eich busnes

Ydych chi eisiau cynyddu eich arferion cynaliadwyedd a’ch elw net?

Asesiad Parodrwydd i Addasu i’r Hinsawdd ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod

Cymerwch ein diagnostig asesu cyflym i werthuso pa mor barod ydych chi ar gyfer effeithiau newid hinsawdd ar eich busnes bwyd neu ddiod. Nid oes angen cofrestru. Bydd yr asesiad hwn yn helpu eich busnes i nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu o ran parodrwydd ar gyfer yr hinsawdd, gyda rhai cwestiynau hefyd yn mynd i’r afael â chamau gweithredu presennol i liniaru allyriadau carbon.

Asesiad Parodrwydd i Addasu i’r Hinsawdd

Hyfforddiant un-i-un

Hefyd, rydym yn cynnig hyfforddiant un-i-un, wedi’i ariannu’n llawn, ar gyfer eich busnes. Bydd ein harbenigwyr yn ymweld â’ch safle ac yn helpu chi i adnabod meysydd penodol o fregusrwydd o fewn eich busnes, er mwyn arbed amser a chanolbwyntio ar eich gofynion addasu a gwydnwch unigryw. Archebwch eich sesiwn nawr: bwyd-food@bic-innovation.com

Cart Image Lighthouse

Barod ar gyfer newid hinsawdd – pecyn cymorth gwydnwch hinsawdd ar gyfer manwerthwyr bwyd a diod annibynnol

Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnig fframwaith rhagarweiniol syml i greu:

  • Asesiad risg newid hinsawdd ar gyfer eich busnes
  • Cynlluniau tymor byr a thymor hir (i liniaru risgiau a manteisio ar gyfleoedd)
  • Monitro ac adolygu eich cynnydd

Barod ar gyfer newid hinsawdd

Lawrlwythwch ein pecyn cymorth gwydnwch hinsawdd ar gyfer manwerthwyr bwyd a diod annibynnol.

Mae tonnau gwres yma i aros – a yw eich busnes yn barod?

Mae Cymru eisoes wedi profi dwy don wres eleni, gyda thymheredd anarferol o uchel yn cyrraedd yn gynharach nag y byddem wedi’i ddisgwyl yn draddodiadol. Wrth i’n hinsawdd newid, mae tonnau gwres yn debygol o ddod yn amlach, para’n hirach a bod yn fwy dwys. I weithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymru, mae hyn yn peri risg gynyddol i les gweithwyr, prosesau cynhyrchu a gwydnwch busnes.

Lawrlwythwch ac argraffwch ein poster Ymwybyddiaeth o Straen Gwres, a’i arddangos mewn mannau y mae eich staff yn eu defnyddio. Mae’r poster yn cynnwys dolenni at ganllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ac adnoddau ymarferol ar addasu i’r newid yn yr hinsawdd.

Svw D05 2021 0007 Min
Helping Your Food And Drink Business Become More Sustainable Min

Clwstwr cynaliadwyedd

Sustainable Strategic Vision Min

Gweledigaeth strategol

Creating A Green Workforce For The Future Min

Gweithlu gwyrdd

Wider Support To Help Your Business Meet The Challenges Of The Future Min

Cefnogaeth ehangach

Business Success Stories Min

Straeon llwyddiant

Food Drink Wales logo
Trosolwg Preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis fel y gallwn roi'r profiad defnyddiwr gorau posibl i chi. Mae gwybodaeth cwcis yn cael ei storio yn eich porwr ac mae’n cyflawni swyddogaethau fel eich adnabod pan fyddwch yn dychwelyd i’n gwefan a helpu ein tîm i ddeall pa adrannau o’r wefan sydd fwyaf diddorol a defnyddiol i chi.