Marchnad Penwythnos Gŵyl Ddewi
Dydd Sadwrn 2 Mawrth
(10am – 6pm)
Dydd Sul 3 Mawrth
(10am – 4pm)
I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, rydyn ni’n mynd â’r gorau o fwyd a diod Cymreig i Lundain ar gyfer marchnad fywiog sy’n cynnwys sesiynau blasu ac arddangosiadau coginio am ddim. Lamb Street, Marchnad Spitalfields, fydd lleoliad y wledd hon o gynnyrch Cymreig – o’r pice ar y maen traddodiadol ac annwyl, i charcuterie arobryn a llawer mwy. Mae mynediad am ddim.
Bydd yr arbenigwraig bwyd a diod enwog a’r cogydd teledu Nerys Howell yn y farchnad, yn coginio’r ryseitiau Cymreig traddodiadol isod i chi eu mwynhau.
Cynhyrchwyr
Gyda chyfoeth o ddanteithion bwyd a diod i chi eu mwynhau, dyma’r cynhyrchwyr a fydd yn y farchnad.
Distyllfa Aber Falls
Alfie’s Coffee
Deli Caerfyrddin gan Albert Rees
Cawl & Co
Cynhyrchion Charcuterie Cwmfarm
Drop Bear Beer Co.
Grounds for Good
Rachel’s Dairy
Radnor Preserves
The Blaenafon Cheddar Co.
The Rogue Welsh Cake Company
Ryseitiau Cymreig oesol
Er y gall cynhwysion Cymreig ddal eu tir mewn nifer o leoliadau coginio a chreu argraff ar bobl o bob rhan o’r byd, maen nhw wastad yn blasu o adref, a’r blas hwnnw wedi’i drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.
Gall ryseitiau traddodiadol Cymreig amrywio o ranbarth i ranbarth a newid dros amser (gydag ychydig o hyn a’r llall yn cael ei ychwanegu yma ac acw), ond mae’r prif gynhwysion Cymreig wedi sefyll prawf amser. Rydyn ni’n meddwl bod y ryseitiau hyn wir yn crynhoi diwylliant, traddodiadau a blasau Cymru.
Gwirioneddol eiconig
A hwythau’n cael eu hedmygu’n fyd-eang, nid yw’n syndod bod nifer cynyddol o gynhyrchion bwyd a diod Cymru yn cael statws enw bwyd gwarchodedig o dan y cynllun Dynodiad Daearyddol (GI). Hyd yma, mae’r achrediad a gydnabyddir yn rhyngwladol wedi gosod 20 o gynhyrchion bwyd a diod eiconig o Gymru ar lwyfan y byd. Wedi ymuno â’r teulu GI unigryw yn ddiweddar mae Cennin Cymreig (PGI), Cig Oen Morfa Halen Gŵyr (PDO) a Wisgi Cymreig Brag Sengl (PGI).
Cefnogi ein planed
Mae ei hadnoddau naturiol a’i thirweddau eithriadol, ynghyd â’i phobl a’i diwylliant, yn sail i ddiwydiant bwyd a diod cyfoethog ac amrywiol Cymru. O arferion ffermio a physgota cyfrifol i achrediad B Corp, prosesau pecynnu ecogyfeillgar ac ethos gwaith teg – dyma rai o’r elfennau sy’n diffinio’r diwydiant, gan arwain at un o’r cadwyni cyflenwi bwyd a diod mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd.
Bwyd a diod sy’n ennill gwobrau
Mae Cymru yn gartref i sector bwyd a diod ffyniannus sy’n esblygu’n barhaus ac yn parhau i arloesi a chreu cynnyrch sy’n ennill gwobrau. Nid yw ansawdd ac amrywiaeth eithriadol y cynhyrchion yn cael eu hanwybyddu. Yn 2023, enillodd 195 o gynhyrchion bwyd a diod o Gymru wobr fawreddog Great Taste gan gynllun achredu bwyd a diod mwyaf y byd, a’r un sy’n cael ei barchu fwyaf.
Aber Falls Distillery
Yn un o ddim ond pedair distyllfa yng Nghymru, Distyllfa Wisgi Aber Falls oedd y ddistyllfa gyntaf yng ngogledd Cymru ers dechrau’r 1900au. Gyda Rhaeadr Aber dafliad carreg i ffwrdd, mae’r wisgi’n cael ei ddistyllu, ei botelu a’i aeddfedu gan ddefnyddio cynhwysion Cymreig o’r ardal gyfagos wedi’u creu’n arbennig. Mae’r distyll-lestri copr wedi’u dylunio’n arbennig i gynhyrchu Wisgi Cymreig Brag Sengl 100% pur o safon uchel. Mae’r ddistyllfa hefyd yn cynhyrchu gwirodydd eraill sydd wedi ennill gwobrau.
Alfie’s Coffee
Mae Alfie’s Coffee yn rhostiwr coffi arbenigol o Sir Gaerfyrddin sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi ymrwymo i ddarparu coffi rhagorol bob tro. Wedi’i rostio mewn sypiau bach â llaw, cynhyrchir y coffi yn hollol ffres, gan sicrhau bod pob llymaid mor flasus â’r nesaf. Gyda chadwyn gyflenwi fer, gall y rhostiwr gyflenwi’r coffi mwyaf ffres a mwyaf blasus o fewn dyddiau.
Carmarthen Deli by Albert Rees
Deli Caerfyrddin yw cartref Ham Caerfyrddin (PGI), ham wedi’i halltu a’i awyrsychu sy’n cael ei gynhyrchu yn ne Cymru. Mae’r ham, a gynhyrchwyd gyntaf yn y 1970au gan gigydd y farchnad Albert Rees, yn dibynnu ar sgil ac arbenigedd sydd wedi’i adeiladu ar wreiddiau traddodiadol Cymreig, a dyna pam y dyfarnwyd statws PGI iddo. Mae Ham Caerfyrddin yn ysgafn ac yn fwyn gydag awgrym hallt sy’n tynnu dŵr i’r dannedd.
Cawl & Co
Mae Cawl & Co yn gwneud cawl blasus Cymreig traddodiadol. Sefydlwyd y cwmni gan bartneriaeth mam a mab ar ôl iddynt sylweddoli, er gwaethaf y galw cynyddol amdano, nad oedd cawl neu lobsgóws ar silffoedd archfarchnadoedd. Trwy gariad y sylfaenwyr at y pryd eiconig, mae’r cwmni’n dod â’r traddodiad coginio hwn i amlygrwydd. Ymhlith y blasau mae ‘Oen y Tir’, ‘Ham Maethlon’ a ‘Barlys heb Esgyrn’.
Cwmfarm Charcuterie Products
Mae Cynhyrchion Charcuterie Cwmfarm yn cynhyrchu Salami Cymreig arobryn a chynhyrchion porc eraill ym mhentref bach Ystradgynlais, de Cymru. Mae’r cwmni’n magu ei foch ei hun sy’n crwydro’n rhydd ac yn cael eu cadw yn yr awyr agored, gan chwilota am fes ar goetir y fferm. Mae’r cwmni’n hoffi defnyddio cynnyrch lleol, felly mae’r bara lawr a ddefnyddir yn y salami bara lawr yn dod o Benclawdd. Mae’r cwmni hefyd yn cynhyrchu byrbrydau blasus fel creision salami a biltong.
Drop Bear Beer Co.
Wedi’i lansio ym mis Mehefin 2019 gan y cwpl ifanc Joelle a Sarah, mae Drop Bear Beer Co. yn cynhyrchu cwrw crefft di-alcohol arobryn. Gyda datganiad cenhadaeth sy’n addo ‘bragu’r cwrw crefft ABV 0.5% gorau ac adeiladu byd gwell i’w yfed ynddo”, mae’r cwmni’n bragu cwrw go iawn, sy’n fegan, heb glwten, a heb lawer o galorïau. Ymhlith eu cynhyrchion mae ‘New World Lager’, ‘Yuzu Pale Ale’, ‘Tropical IPA’ a ‘Bonfire Stout’.
Grounds for Good
Wedi’i sefydlu yn ystod y cyfnod clo yn 2020 gan feddyg wedi ymddeol, mae’r cwmni’n casglu gweddillion coffi o gaffis Cymru ac yn eu trawsnewid yn gynhyrchion arloesol. Tra bod y cynhyrchion, sydd hefyd yn cynnwys cynhwysion naturiol eraill, yn cael eu creu er budd ein lles, mae’r cwmni’n gweithredu fel menter gymdeithasol ac yn cyfrannu at gymunedau lleol. Mae eu cynhyrchion yn cynnwys gwrtaith o safon, nwyddau gofal croen, sebonau a fodca premiwm.
Rachel’s Dairy
Ers 1952, bu teulu Rachel yn arloesi ym maes cynnyrch organig, gan ddefnyddio dulliau naturiol ar eu fferm, a ddaeth yn fferm laeth organig gyntaf yn y DU. Heddiw, mae Rachel’s Organic yn ymdrechu i ddarparu’r profiad blasu gorau posibl mewn iogwrt a phwdinau gan ddefnyddio llaeth organig Prydeinig lleol a’r cynhwysion gorau sydd gan natur i’w cynnig. Mae cynhyrchion Rachel’s Organic ar gael ledled y byd.
Radnor Preserves
Wedi’i sefydlu yn 2010, mae Radnor Preserves yn defnyddio’r cynhwysion naturiol gorau o’r ansawdd uchaf i gynhyrchu cyffeithiau sydd wedi ennill gwobrau. O darddiad lleol cyn belled ag y bo modd, mae’r cynhwysion yn cael eu paratoi â llaw yn ofalus a’u coginio mewn sypiau bach. Ni ddefnyddir unrhyw gadwolion neu ychwanegion artiffisial, ac mae pob cynnyrch yn rhydd o glwten ac yn addas ar gyfer llysieuwyr a feganiaid.
The Blaenafon Cheddar Co.
Wedi’i sefydlu ym mis Rhagfyr 2006, mae The Blaenafon Cheddar Co. yn gwmni caws cheddar arbenigol arobryn sydd wedi’i leoli ar safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, de Cymru. Er ei fod yn addas ar gyfer llysieuwyr, mae pob caws wedi’i wneud â llaw ac yn rhydd o gadwolion neu liwiau artiffisial. Mae’r cheddars â blas yn cael eu gwneud ag alcoholau lleol gan gynnwys wisgi Celtic Spirit, Black Mountain Liqueur, cwrw Brains SA a Reverend James a seidr Taffy Apple.
The Rogue Welsh Cake Company
Wedi’i sefydlu yn 2020, nid yw The Rogue Welsh Cake Company Ltd byth yn cyfaddawdu ar ansawdd ac mae’n defnyddio’r cynhwysion gorau i wneud Pice ar y Maen. Wedi’i leoli yng Nghasnewydd, de Cymru, mae’r pice ar y maen yn cael eu gwneud â llaw heb ddefnyddio ychwanegion na chadwolion. Mae’r pice ar y maen yn cynnwys blawd codi organig, menyn, siocled Belgaidd o safon uchel, siwgr demerara ac wyau maes.