Berwr y dŵr wedi gwywo gyda Cig Oen Cymru mechoui a harissa

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 3 awr 50 mun
  • Ar gyfer 5+
wilted watercress with mechoui welsh lamb and harissa

Bydd angen

Berwr y dŵr wedi’i stemio mewn padell

Mae berwr y dŵr yn llysieuyn gwyrdd ffres a hyblyg sy’n hyfryd wedi’i goginio neu’n amrwd. Mae gwywo neu stemio berwr y dŵr mewn padell yn gyflym ac yn hawdd. Dewiswch ferwr y dŵr da a chryf gyda choesynnau trwchus cadarn.
  • Digon i 4 fel llysieuyn ochr
  • 600g berwr y dŵr
  • olew olewydd golau
  • 1 ewin garlleg

Chig Oen Cymru mechoui a harissa

  • 1kg ysgwydd cig oen, y coesgyn yw’r darn mwyaf blasus
  • 30g menyn
  • 3 ewin garlleg, wedi’u torri
  • 2 lwy de hadau coriander, wedi’u malu
  • 2 lwy de hadau cwmin, wedi’u malu
  • 1 llwy de paprica melys
  • Croen hanner lemon
  • 1 llwy de halen ac 1 llwy de pupur

Rysáit gan yr eco-gogydd Tom Hunt

Mae cig oen mechoui yn cael ei goginio’n araf a’i orffwys am gyhyd â phosibl fel ei fod yn stemio yn ei sudd ei hun ac yn troi’n suddlon ac yn aromatig. Mae berwr y dŵr yn mynd yn dda gyda’r pryd hwn, cyfeiliant blasus llawn haearn.


Dull

Berwr y dŵr wedi’i stemio mewn padell

  1. Golchwch y berwr y dŵr a’i dorri’n ddarnau bras.
  2. Sleisiwch y garlleg.
  3. Dewch â phadell ffrio â chaead i wres canolig-uchel gyda joch o olew olewydd.
  4. Pan fydd yn dechrau sïo gollyngwch y garlleg a’r berwr y dŵr i mewn, mi fydd dal ychydig yn wlyb ers cael ei olchi.
  5. Rhowch y caead ymlaen am funud.
  6. Tynnwch y caead i ffwrdd a’i gymysgu.
  7. Cyn gynted ag y bydd y berwr y dŵr wedi gwywo, mae’n barod.

Chig Oen Cymru mechoui a harissa

  1. Cynheswch y popty i 200°C
  2. Stwnsiwch y menyn gyda’r sbeisys, halen, pupur, croen lemon a garlleg.
  3. Rhwbiwch y menyn dros y cig oen i mewn i unrhyw gilfachau a chorneli.
  4. Rhowch y cig yn y popty am 15-20 munud nes ei fod yn frown, ei dynnu allan o’r popty a’i orchuddio’n dynn â ffoil.
  5. Trowch y popty i lawr i 150°C a dychwelwch y cig oen iddo. Coginiwch yn araf am o leiaf 3 awr. Gwiriwch hanner ffordd drwodd i wneud yn siŵr nad yw’n llosgi. Rhowch ychydig o’r sudd menyn dros y top.
  6. Ar ôl ei goginio, tynnwch y cig allan o’r popty a’i orffwys, wedi’i orchuddio, am 30 munud.
  7. Tynnwch y cig oddi ar yr asgwrn a’i ddychwelyd i’r sudd. Gweinwch wedi’i gymysgu â berwr y dŵr wedi gwywo a harissa.

Storio
Bydd y berwr y dŵr a’r cig oen yn cadw’n dda am 4 diwrnod yn yr oergell. Ailgynheswch nes ei fod yn boeth drwyddo mewn padell ac addaswch y sesnin os oes angen.