Sglodion cêl

  • Amser paratoi 5 mun
  • Amser coginio 30 mun
  • Ar gyfer 4
Kale crisps

Bydd angen

  • 200g cêl, wedi’i olchi a’i sychu
  • 1-2 lwy fwrdd olew had rêp
  • Halen môr
  • 2 lwy de paprica
  • 2 lwy de siwgr brown

Digon i 3-4 fel byrbryd


Dull

  1. Cynheswch y popty i 140˚C / 120˚C ffan / Nwy 1 .
  2. Torrwch asennau mewnol y dail cêl a’u rhwygo’n ddarnau o faint tebyg.
  3. Mewn powlen fawr, cymysgwch y dail gyda’r olew, paprica a siwgr a’u gwasgaru dros ddau hambwrdd pobi.
  4. Pobwch am 15 munud, yna trowch y dail a’u pobi am 10-15 munud arall nes eu bod yn grimp. Peidiwch â gadael i’r dail frownio gormod gan y byddant yn troi’n chwerw.
Food Drink Wales logo
Trosolwg Preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis fel y gallwn roi'r profiad defnyddiwr gorau posibl i chi. Mae gwybodaeth cwcis yn cael ei storio yn eich porwr ac mae’n cyflawni swyddogaethau fel eich adnabod pan fyddwch yn dychwelyd i’n gwefan a helpu ein tîm i ddeall pa adrannau o’r wefan sydd fwyaf diddorol a defnyddiol i chi.