Croutons garlleg

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 2
Garlic croutons

Bydd angen

  • 250g hen fara surdoes wedi’i dorri’n ddarnau yr un maint
  • 3 llwy fwrdd olew olewydd
  • 3 ewin garlleg (dewisol), wedi’u plicio a’u malu

Yn gwneud 250g


Dull

  1. Cynheswch y popty i 180˚C / 160˚C ffan / Nwy 4 a leiniwch hambwrdd pobi gyda phapur pobi.
  2. Cymysgwch y bara gyda’r olew a’r garlleg, os ydych chi’n ei ddefnyddio, ynghyd ag ambell binsiad o halen môr.
  3. Taenwch y croutons ar yr hambwrdd pobi a’u pobi am 15 munud nes eu bod yn dechrau brownio.
  4. Tynnwch allan o’r popty a’u gadael i oeri cyn eu storio mewn cynhwysydd aerglos.