- Cynheswch y popty i 190°C
- Torrwch y brocoli yn flodigion mawr.
- Taflwch olew olewydd ysgafn a halen a phupur i mewn.
- Gratiwch ychydig o groen lemon dros y top.
- Rhostiwch y cyfan yn y popty am 20-30 munud nes ei fod wedi golosgi mewn mannau ac wedi coginio drwyddo.
- Rhwygwch y cyw iâr yn ddarnau canolig eu maint a’u taflu i mewn i’r hambwrdd pobi gyda’r brocoli cynnes.
- Gweinwch ar blât wedi’i wasgaru gyda’r cnau pîn wedi’u tostio a rhagor o groen lemwn wedi’i gratio.
- Gorffennwch gyda dail basil wedi’u rhwygo a haenau parmesan.
Brocoli rhost gyda chyw iâr wedi’i rwygo, cnau pîn, basil, a parmesan
- Amser paratoi 10 mun
- Amser coginio 30 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 800g brocoli
- Joch o olew olewydd golau
- Lemon er mwyn crafu’r croen
- 160g cyw iâr wedi’i goginio
- 25g cnau pîn, wedi’u tostio
- 12 dail basil
- 50g haenau parmesan
Rysáit a ddatblygwyd gan yr eco-gogydd Tom Hunt
Mae hwn yn bryd gwych. Yn rhyfeddol o flasus, yn llawn blasau cadarn a sawrus ac yn ffordd wych o ddefnyddio cyw iâr wedi’i goginio. Hefyd, os yw eich brocoli yn edrych braidd yn flinedig, mae hon yn ffordd flasus o roi bywyd newydd iddo a’i achub rhag yr anghenfil compost. Arbedwch egni trwy goginio cynhwysion eraill mewn swp am yr wythnos tra’n defnyddio’r popty i rostio’r brocoli.