- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 1 awr
- Ar gyfer 8-10 tafell
Cynhwysion
- 400g ffrwythau sych cymysg (resins, syltanas, cwrents)
- 300ml tê twym cryf
- 250g blawd codi
- 1 tsp sbeis cymysg
- 100g siwgr muscovado brown tywyll
- 1 ŵy, wedi’i guro
- mêl i roi sglein arno
Torth burum gyda ffrwythau yw’r rysáit traddodiadal am farabrith er mai rysáit tebyg i hon caiff ei weini erbyn hyn. Mae’r gacen yn un llaith ac yn cadw am beth amser gan bod y ffrwythau wedi’u mwydo mewn te dros nos.
Dull
- Rhowch y ffrwythau sych cymysg mewn powlen gymysgu, arllwyswch y tê drostynt, ychwanegwch y siwgr i’r gymysgedd a chymysgu’n dda nes bod y siwgr wedi toddi. Gadewch am o leiaf 6 awr neu dros nos.
- Drannoeth, hidlwch y blawd a’r sbeis i mewn at y gymysgedd (nid oes angel cael gwared o’r te) ac ychwanegwch yr ŵy. Cymysgwch yn dda.
- Leiniwch dun 900g gyda phapur gwrthsaim a rhowch y gymysgedd yn y tun.
- Pobwch mewn ffwrn wedi’i chynhesu i 180°C/Nwy 4 am tua awr nes fod y dorth wedi codi a wedi’i choginio drwyddi. Gadewch i oeri ar hambwrdd oeri a chadwch hi am 2 ddiwrnod cyn ei bwyta. Gweinwch gyda menyn.
- Gellir dwbli’r maint i wneud 2 dorth a gellir eu cadw am 7 niwrnod.
- Os am sglein cynheswch ychydig o fêl i wasgaru dros wyneb y gacen gynnes.