- Cynheswch yr olew mewn sosban fawr dros wres canolig, yna ychwanegwch y sbarion llysiau, ac eithrio’r perlysiau a’r dail llawryf, gan gymysgu’n aml nes bod y llysiau’n dechrau lliwio. Yna ychwanegwch y perlysiau a’r dail llawryf ac arllwyswch ddigon o ddŵr drostynt i orchuddio’r llysiau.
- Ychwanegwch halen a phupur a’i fudferwi am awr i leihau.
- Blaswch ac addaswch y sesnin os oes angen, yna ei oeri a’i roi yn yr oergell neu ei rewi nes bod ei angen ar gyfer cawl a sawsiau.
Stoc sbarion llysiau
- Amser paratoi 5 mun
- Amser coginio 1 awr
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 600g croen a sbarion llysiau (winwns, cennin, dail gwyrdd, moron, perlysiau ac ati)
- 2 lwy fwrdd olew
- Halen môr a phupur du
- 2 ddeilen llawryf
Yn gwneud 1.5 litr