Sglodion croen tatws

  • Amser paratoi 5 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 2
Crispy potato skins

Bydd angen

  • Crafion croen 4 taten
  • 2 lwy de olew had rêp
  • Halen môr

Dull

  1. Cynheswch y popty i 200˚C / 180˚C ffan / Nwy 6 a leiniwch hambwrdd pobi gyda phapur pobi.
  2. Taflwch y croen tatws gyda’r olew ac ysgeintiwch yr halen môr drostynt. Arllwyswch nhw ar yr hambwrdd pobi a’u gwasgaru i un haen.
  3. Pobwch am tua 15 munud nes eu bod yn grimp.