- Cynheswch y popty i 140˚C / 120˚C ffan / Nwy 1 .
- Torrwch asennau mewnol y dail cêl a’u rhwygo’n ddarnau o faint tebyg.
- Mewn powlen fawr, cymysgwch y dail gyda’r olew, paprica a siwgr a’u gwasgaru dros ddau hambwrdd pobi.
- Pobwch am 15 munud, yna trowch y dail a’u pobi am 10-15 munud arall nes eu bod yn grimp. Peidiwch â gadael i’r dail frownio gormod gan y byddant yn troi’n chwerw.
Sglodion cêl
- Amser paratoi 5 mun
- Amser coginio 30 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 200g cêl, wedi’i olchi a’i sychu
- 1-2 lwy fwrdd olew had rêp
- Halen môr
- 2 lwy de paprica
- 2 lwy de siwgr brown
Digon i 3-4 fel byrbryd