Powdr sitrws

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 3 awr
  • Ar gyfer 5+
Dried orange powder

Bydd angen

  • Croen 2 oren

Yn gwneud 1 jar fach iawn


Dull

  1. Cynheswch y popty i 100˚C / 80˚C ffan / Nwy ¼, neu mor isel ag y mae’n mynd.
  2. Golchwch a sychwch y croen oren yn dda.
  3. Gyda chyllell ddeugarn, torrwch y croen yn ddarnau tenau, gan wneud yn siŵr eich bod yn tynnu cymaint o’r craidd gwyn â phosib.
  4. Leiniwch hambwrdd pobi gyda phapur pobi a thaenwch y croen yn un haen sengl ar yr hambwrdd.
  5. Pobwch am 2-3 awr nes bod y croen yn sych ac yn frau. Gadewch iddo oeri a’i falu mewn malwr coffi neu felin sbeisys a’i storio mewn cynhwysydd aerglos.
  6. Defnyddiwch i flasu cacennau, bisgedi neu bwdinau.