Pesto topiau moron

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 0 mun
  • Ar gyfer 5+
Carrot top pesto

Bydd angen

  • Topiau deiliog 6 moronen, wedi’u torri’n fras
  • 20g dail basil
  • 2 ewin garlleg
  • 60ml olew olewydd
  • 15g cnau e.e. cnau pîn, cnau Ffrengig, cnau cyll, wedi’u tostio a’u torri
  • 50g parmesan neu cheddar aeddfed cryf, wedi’i gratio

Yn gwneud 1 jar fach


Dull

  1. Rhowch yr holl gynhwysion, ac eithrio’r caws, mewn prosesydd bwyd neu hylifydd a chymysgu am ychydig eiliadau nes bod y cymysgedd yn dod at ei gilydd ac yn llyfn, yna ychwanegwch y caws a’i gymysgu eto.
  2. Blaswch ar gyfer sesnin, yna rhowch y cyfan mewn jar fach a’i orchuddio â llwyaid ychwanegol o olew.
  3. Defnyddiwch o fewn wythnos neu ei storio yn y rhewgell.