Brownis mocha

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 45 mun
  • Ar gyfer 5+
Sea salted mocha brownies

Bydd angen

  • 250g menyn heb halen
  • 200g siocled tywyll
  • 200g siwgr muscovado tywyll
  • 100g siwgr mân
  • 65g blawd plaen
  • 60g powdr coco
  • 40g coffi mâl dros ben
  • ½ llwy de halen môr
  • 4 wy mawr, wedi’u curo

Yn gwneud 12


Dull

  1. Cynheswch y popty i 180˚C / 160˚C ffan / Nwy 4 .
  2. Leiniwch dun pobi 32cm x 22cm gyda phapur pobi.
  3. Toddwch y menyn dros wres isel, ychwanegwch y siocled, a chymysgwch yn dda. Tynnwch oddi ar y gwres unwaith y bydd y siocled wedi toddi a gadewch iddo oeri.
  4. Rhowch weddill y cynhwysion sych mewn powlen a chymysgwch yr wyau i mewn yn raddol.
  5. Unwaith y bydd y siocled wedi oeri, arllwyswch ar y cymysgedd blawd a’i gymysgu’n dda, yna arllwyswch i’r tun parod a’i bobi am 25-30 munud.
  6. Tynnwch allan o’r popty a’i adael i oeri cyn ei dorri’n 12 sleisen.