- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 25 mun
- Ar gyfer 12 crempog
Cynhwysion
- 200g blawd plaen
- Pinsiad o Halen Môn (PDO)
- 2 lwy fwrdd persli ffres, wedi’i dorri’n fân
- 1 llwy fwrdd cennin syfi, wedi’i dorri’n fân
- 1 llwy fwrdd Bara Lawr (PDO) ∆
- 2 ŵy mawr, wedi’u gwahanu
- 284ml llaeth enwyn neu iogwrt naturiol
- 100ml llaeth
- Talp o fenyn
Dull
- Hidlwch y blawd a’r halen i fowlen, ychwanegwch y perlysiau a’r bara lawr a chymysgwch y cyfan gyda’i gilydd. Gwnewch ffynnon yn y canol ac ychwanegwch y melynwy, y llaeth enwyn a’r llaeth a’i gymysgu’n dda.
- Curwch y gwynwy nes eu bod yn ffurfio brigau meddal a phlygu i mewn i’r cymysgedd yn ysgafn I cadwch y cymysgedd yn ysgafn.
- Toddwch ychydig o fenyn mewn padell ffrio dros wres canolig a ffriwch lwyaidau o’r cymysgedd am tua munud bob ochr. Cadwch yn gynnes a gweinwch naill ai gyda menyn neu bacwn creisionllyd neu Ham Caerfyrddin (PGI) a thomatos wedi’u rhostio.