Amdanon ni…
Mae Bwyd a Diod Cymru yn is-adran o Lywodraeth Cymru ac mae ganddi weledigaeth ‘egin gwyrdd’ gyda’r nod o greu ‘un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd’.
Gallwn ni i gyd wneud ein rhan a gobeithiwn y gallai rhywfaint o’r cyngor ar y tudalennau hyn ychwanegu at eich gwybodaeth bresennol a’ch helpu i arbed amser, arian a’r blaned.
Mwy am Tom…
Er ein bod ni i gyd eisiau bwyta’n fwy cynaliadwy mae’n anodd anwybyddu cyd-destun ehangach biliau ynni uwch a’r cynnydd cyflym mewn costau bwyd.
Dyna pam mai un o’r bobl rydyn ni’n cydweithio ag ef yw’r eco-gogydd Tom Hunt er mwyn rhannu ei syniadau ar arbed arian ac amser, tra’n helpu ein planed trwy goginio’n glyfar.
Fel y dywed Tom, ‘meddyliwch am y canllaw hwn fel man cychwyn i’ch helpu i fwyta er pleser, pobl a’r blaned.’
Mae Tom wedi gweithio gyda bwyd drwy gydol ei oes ac mae’n coginio gyda’i deulu bob dydd, gan roi’r bwyd gorau y gall iddynt ar gyllideb. Mae ei brofiad o weithio fel newyddiadurwr ac ymgyrchydd bwyd wedi ei ddysgu bod gan y ffordd rydyn ni’n bwyta’r pŵer i wella nid yn unig ein hiechyd, ond iechyd ein cymunedau, a hyd yn oed yr amgylchedd. Mae popeth wedi’i gysylltu trwy ein gwe fwyd, y lleoliadau o ble mae ein cynhwysion yn dod a sut daethon nhw atom.
O fwyta – lle bo’n bosibl – yn dymhorol, i wneud eich cynhyrchion glanhau eich hun, mae canllaw cychwynnol i’r cyfan i’w gael yn y pecyn cymorth hwn y gellir ei lawrlwytho.
Rydyn ni hefyd wedi datblygu siart wal tymhorol efallai yr hoffech ei weld.
Rhwydd hynt trwy ddechrau da…
Dechreuwch yn syml gyda newidiadau cymedrol i’ch arferion coginio a phrynu a chyn pen dim byddwch yn meddwl am eich syniadau eich hun am sut i arbed amser, arian a’r blaned.