Pecyn Cymorth Cynaliadwyedd
Mae Bwyd a Diod Cymru wedi datblygu pecyn cymorth i helpu eich busnes i wella cynaliadwyedd.
Mae’r pecyn cymorth wedi’i ddatblygu fel rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn un o’r cadwyni cyflenwi bwyd a diod mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y byd, yn ogystal â chyfrannu at uchelgeisiau hinsawdd ehangach y wlad, gan gynnwys cyrraedd sero net erbyn 2050.
Mae’r pecyn cymorth yn rhoi cyngor campus ar sut i leihau eich gwastraff bwyd, pecynnu, a’ch defnydd o ynni, ac yn y pen draw, mewn mannau, helpu eich elw net.
Gwneud Busnes Gwell
Lawrlwythwch lawlyfr cynaliadwyedd ar gyfer eich busnes.
Canllaw Cynaliadwyedd ar gyfer eich Busnes
Yn 2021, cyflwynodd Arloesi Bwyd Cymru ganllaw Cynaliadwyedd i’ch Busnes, yn cynnig pecyn cymorth cynhwysfawr o wybodaeth i gwmnïau bwyd a diod sy’n gweithredu yng Nghymru ac yn cyfeirio at gamau ymarferol o ran sut y gallant weithio mewn ffordd wahanol, gan gynnwys chwilio am atebion pecynnu cynaliadwy, lleihau gwastraff bwyd a lleihau eu hôl troed carbon.
Mae’r pecyn cymorth hwn yn cael ei anfon at unrhyw gwmnïau sy’n ymuno â phrosiect sy’n gweithio gyda’u tair canolfan fwyd ledled y wlad, gan gynnwys y Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni, a arweiniodd ar y ddogfen, ac sy’n helpu busnesau bwyd a diod i lunio ac ailfformiwleiddio cynhyrchion, cynnal rhag-archwiliadau a helpu gydag achredu, dilysu prosesau ac oes silff.
Dysgwch fwy am sut y gall Arloesi Bwyd Cymru eich helpu i edrych ar faterion fel datblygu cynnyrch cynaliadwy a lleihau gwastraff.