Pum rheswm dros ymuno â’r Clwstwr Cynaliadwyedd
Mewnwelediad i'r farchnad
Trwy ymgysylltu â manwerthwyr, arbenigwyr yn y diwydiant ac ymchwil marchnad, bydd y Clwstwr Cynaliadwyedd yn eich helpu i nodi pa rinweddau cynaliadwyedd sydd eu hangen ar eich busnes i fodloni disgwyliadau defnyddwyr a manwerthwyr.
Mynediad at arbenigedd ac arloesedd
Mae gan y Clwstwr Cynaliadwyedd gysylltiadau â Llywodraeth Cymru, y byd academaidd, y tair canolfan arloesi bwyd, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru, Sgiliau Bwyd a Diod Cymru ac eraill. Bydd mynediad at yr arbenigedd hwn yn helpu eich busnes gyda gwella prosesau, awtomeiddio, ailfformiwleiddio, pecynnu, rheoli gwastraff a llawer mwy.
Cefnogaeth 1:1 ar gyfer ardystiad B Corp
Mae gan y Clwstwr Cynaliadwyedd hanes llwyddiannus o gydweithio’n agos â busnesau bwyd a diod Cymru, gan eu harwain drwy broses ardystio B Corp. Mae’r Clwstwr yn hwyluso busnesau i gwblhau Asesiadau Effaith B ac yn rheoli ffrwd waith B Corp benodol i fusnesau sy’n awyddus i gyflawni’r ardystiad pwysig.
Brandio ac arddangos mewn digwyddiadau
O dan frand Bwyd a Diod Cymru, mae’r Clwstwr Cynaliadwyedd yn arddangos busnesau mewn digwyddiadau pwysig fel Sioe Frenhinol Cymru a BlasCymru/Taste Wales, gan ddarparu’r llwyfan perffaith i gysylltu â chynulleidfa eang a hyrwyddo rhinweddau cynaliadwyedd eich cynhyrchion.
Cymuned sy'n tyfu
Mae ganddo eisoes dros gant o aelodau o bob rhan o’r diwydiant, ynghyd â chyrff y llywodraeth a 30 o sefydliadau academaidd, ac mae’r Clwstwr Cynaliadwyedd yn tyfu’n barhaus ac yn darparu adnodd gwerthfawr i fusnesau bwyd a diod ffynnu a llwyddo, trwy rannu gwybodaeth ac arfer gorau.
Sut gall y clwstwr cynaliadwyedd helpu eich busnes
Rydyn ni i gyd wedi teimlo effeithiau chwalfa’r hinsawdd trwy ein bwyd. P’un a yw’n ffermwyr yn profi tywydd anarferol, yn weithwyr proffesiynol y diwydiant yn gwylio costau bwyd yn codi, neu ein cwsmeriaid yn gweld prinder bwyd ar silffoedd archfarchnadoedd.
Mewn byd sy’n fwyfwy ymwybodol o anghenion amgylcheddol y blaned, mae’n dod yn rhagofyniad i gynhyrchwyr bwyd a diod gynhyrchu eu nwyddau gyda chynaliadwyedd ar flaen eu meddwl.
Mae defnyddwyr bellach yn disgwyl i’w bwyd a’u diod gael eu cyrchu a’u darparu’n gynaliadwy, gan ddibynnu ar weithgynhyrchwyr i sicrhau bod hyn yn digwydd.