A allai eich busnes ddod yn B Corp?
Mae portffolio B Corp Cymru yn blodeuo. Gyda Llywodraeth Cymru yn darparu mynediad at arbenigedd a hyfforddiant i fusnesau ddod yn fwy gwyrdd ac yn fwy cynaliadwy, mae’n caniatáu i fusnesau ddod yn nes o lawer at eu nodau cynaliadwyedd, gan gynnwys B Corp.
Mewn byd sy’n fwyfwy ymwybodol o anghenion amgylcheddol y blaned, mae’n dod yn rhagofyniad i gynhyrchwyr bwyd a diod gynhyrchu eu nwyddau gyda chynaliadwyedd yn flaenllaw yn eu meddyliau.
Mae’n debygol yn y tymor hir mai’r manwerthwyr a’r gweithgynhyrchwyr sy’n dangos cyfrifoldeb busnes drwy welliannau cynaliadwy mewn gwerthoedd amgylcheddol, cymdeithasol, iechyd ac ansawdd fydd yn cael eu ffafrio fwyaf gan ddefnyddwyr.
Bod yn garedig wrth eich staff a’r blaned, ochr yn ochr â chymorth gan Lywodraeth Cymru, onid yw’n bryd ichi ymuno â chymuned B Corp? Cysylltwch â’r Clwstwr Cynaliadwyedd a dechreuwch eich taith tuag at ddiwydiant bwyd a diod mwy cynaliadwy yng Nghymru.
Sêr B Corp Cymru
Coffi Coaltown
Drop Bear Beer
Flawsome!
Halen Môn
Hilltop
Wholebake
Coffi Coaltown
Mae Coaltown Coffee yn rhostio coffi gwyrdd o ffynonellau moesegol gan gynhyrchwyr gorau’r byd yn Rhydaman. Gydag ethos i greu coffi blasus tra’n dangos yr un parch tuag at y blaned, pobl ac elw, daeth yn B Corp ardystiedig yn 2019, ac roedd yn un o’r cwmnïau coffi cyntaf yn y DU i gyflawni hyn.
Drop Bear Beer
Wedi’i lansio ym mis Mehefin 2019 gan y cwpl ifanc Joelle a Sarah, mae Drop Bear Beer Co. yn cynhyrchu cwrw crefft di-alcohol. Gyda datganiad cenhadaeth sy’n addo ‘bragu’r cwrw crefft ABV 0.5% gorau ac adeiladu byd gwell i’w yfed ynddo” mae’r cwmni wedi’i ardystio’n garbon niwtral a daeth yn B Corp yn 2021, bragdy B Corp cyntaf Cymru.
Flawsome!
Yn 2018, dechreuodd Karina a Maciek eu brand sudd annibynnol Flawsome! i drawsnewid ffrwythau perffaith o amherffaith yn ddiodydd blasus i bawb eu mwynhau. Fel eiriolwyr dros atal gwastraff bwyd, roeddent eisiau ffordd fwy blasus o fwynhau ffrwythau dros ben. Mae ymrwymiad y cwmni i leihau gwastraff bwyd a hyrwyddo cynaliadwyedd, ochr yn ochr â dull angerddol ac arloesol o roi ail gyfle i ffrwythau cam, wedi ennill nifer o wobrau ac achrediad B Corp iddynt.
Halen Môn
Tra bod Halen Môn o Ynys Môn yn parhau i ennill gwobrau am ei gynnyrch halen môr, mae hefyd yn gweithio’n ddiflino i sicrhau mai ei bobl a’r blaned yw ei flaenoriaethau. Yn dilyn cefnogaeth gan Glwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, ymunodd y cwmni â chymuned B Corp yn 2023.
Hilltop
Yn 2022, Hilltop oedd brand mêl cyntaf y DU i gael ei ardystio gan B Corp. Ers ceisio achrediad B Corp, mae’r cwmni wedi profi llawer o fanteision megis gwelliannau mewn effeithlonrwydd ynni, lleihau gwastraff, pecynnu, ymgysylltu â’r gymuned ac ymgysylltu â gweithwyr.
Wholebake
Mae Wholebake yn gwneud byrbrydau iach, gan gynnwys rhai heb glwten. Mae greddf entrepreneuraidd ac anghenion cwsmeriaid bob amser wedi bod wrth calon y cwmni, ond ochr yn ochr â hyn mae wastad wedi ceisio gweithredu gyda chydwybod. Gyda’r gwerthoedd craidd hyn yn creu asiad perffaith, cafodd Wholebake ei ardystio yn B Corp yn 2021.