Stiw ffa borlotti gyda pesto topiau moron

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 4
borlotti bean stew

Bydd angen

Ar gyfer y stiw ffa borlotti 

  • 2 lwy fwrdd olew olewydd
  • 2 ewin garlleg
  • 1 sbrigyn rhosmari
  • 1 ddeilen llawryf
  • 2 foronen gyda’u topiau (y moron wedi’u torri’n giwbiau mân, cadwch y topiau ar gyfer y pesto)
  • 200g tomatos, wedi’u torri’n ddarnau 1-2cm (neu 200g o domatos tun yn y gaeaf)
  • 1 llwy fwrdd finegr (gwin coch, seidr, neu un arall)
  • 240g ffa borlotti wedi’u coginio, a’r hylif coginio (neu, gwnaiff unrhyw ffa mewn tun neu wedi’u coginio y tro)


Ar gyfer y pesto

  • 25g topiau moron, wedi’u glanhau, a mwy i addurno
  • 25g basil, persli neu oregano
  • 1 ewin garlleg bychan, wedi’i dorri’n fân
  • 1 llwy fwrdd cnau pîn neu friwsion bara, wedi’u tostio
  • 1 llwy fwrdd wedi’i gratio parmesan neu furum maethlon
  • 110ml olew olewydd ifanc iawn
  • Bara i weini, dewisol
  • I weini: briwsion bara, croen lemon, perlysiau wedi’u torri, olew olewydd

Rysáit a ddatblygwyd gan yr eco-gogydd Tom Hunt

Rwy’n hoff o godlysiau oherwydd yr holl faetholion maen nhw’n eu rhoi i ni ac i’r pridd. Mae coginio’ch ffa, codlysiau neu rawn eich hun yn un o’r pethau hawsaf, gwerth chweil, cost-effeithiol a maethlon y gallwch chi ei wneud i chi eich hun ac ar gyfer eich diet. Rydw i’n socian a swp-goginio sawl math ar ddydd Sul diog, gan greu oergell yn llawn cynhwysion parod y gellir eu trosi’n brydau mewn munud.

Mae eu rhoi i socian yn y bore yn cymryd llai na munud ac felly hefyd eu rhoi i goginio gyda’r nos. Os ydych chi’n coginio’ch codlysiau eich hun, byddwn yn argymell prynu sosban bwysedd fel y gallwch haneru’r amser coginio. Mae pesto topiau moron yn rhoi hwb i flas y rysáit hon tra’n arbed gwastraff. Cadwch dopiau moron yn ffres trwy eu tynnu oddi ar y bwnsiad o foron a’u storio’n unionsyth mewn jar o ddŵr fel tusw o flodau, neu, yn yr oergell wedi’u selio mewn cynhwysydd neu wedi’u lapio mewn bag plastig gyda darn o bapur neu gadach i amsugno lleithder gormodol.


Dull

Ar gyfer y stiw ffa borlotti 

  1. I wneud y stiw ffa borlotti, cynheswch badell drom gyda dwy lwy fwrdd o olew olewydd dros wres canolig-isel.
  2. Malwch ddau ewin garlleg yn ysgafn a’u hychwanegu at y badell yn eu crwyn gyda sbrigyn bach o rosmari a deilen llawryf.
  3. Ychwanegwch y moron i’r badell a ffriwch yn ysgafn am bum munud, yna cymysgwch y tomatos i mewn.
  4. Ychwanegwch y finegr a dod â’r cyfan i’r berw.
  5. Nesaf, ychwanegwch y ffa wedi’u coginio gyda 150ml o hylif coginio, dewch â’r cyfan i’r berw gyda chaead ar ei ben a’i fudferwi am 5-10 munud.
  6. Tynnwch y caead a pharhau i goginio nes bod yr hylif yn dechrau tewychu.
  7. Ychwanegwch sesnin a’i weini gyda’r pesto a’r topiau moron ar ei ben.

Ar gyfer y pesto

  1. I wneud y pesto, torrwch y topiau moron a basil neu berlysiau eraill yn fân a’u rhoi mewn prosesydd bwyd, ynghyd â’r ewin garlleg, cnau pîn neu friwsion bara, parmesan neu furum maethlon a 110ml o olew olewydd.
  2. Cymysgwch nes bod gennych wead bras ond cyson.
  3. Defnyddiwch ar unwaith neu storiwch mewn jar lân, wedi’i selio yn yr oergell am hyd at wythnos.