Risotto cregyn bylchog, cennin a barlys perlog

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 1 awr 30 mun
  • Ar gyfer 4
clam leek and pearl barley risotto

Bydd angen

Ar gyfer y stoc – 1.5 litr stoc pysgod wedi’i wneud gyda

  • 300g esgyrn pysgod
  • 1 foronen
  • 1 winwnsyn
  • 1/2 cenhinen (dim ond y topiau)
  • 1 ffon seleri
  • coesynnau persli
  • sbrigyn o deim
  • 2 ddeilen llawryf
  • 1 llwy de hadau ffenigl (dewisol)

Ar gyfer y risotto

  • 25g menyn
  • 1 genhinen, wedi’i sleisio’n fân
  • 75g seleri, wedi’i sleisio’n fân
  • 2 ewin garlleg, wedi’u torri’n fras
  • 250g barlys perlog (neu reis brown grawn byr)
  • 100ml gwin gwyn
  • 400g cregyn bylchog neu gocos, wedi’u golchi
  • Ambell sbrigyn o bersli, y coesynnau tenau a’r dail wedi’u torri’n fân
  • ½ lemon

Rysáit a ddatblygwyd gan yr eco-gogydd Tom Hunt

Mae cregyn bylchog yn rhoi melyster cain i’r risotto blasus, cyfoethog ac iach hwn. Mae’n hawdd iawn ei goginio, felly cymerwch amser i wneud stoc i greu blas crwn a llawn. Mae barlys perlog yn ddewis amgen diddorol i reis; mae ganddo frathiad cadarn a blas cneuaidd sy’n rhoi boddhad mawr.

Mae cregyn dwygragennog fel cocos, cregyn bylchog, cregyn gleision, wystrys a gylfgregyn yn ddewis cynaliadwy da gan eu bod yn hidlo’r dŵr y maent ynddo a chynyddu bioamrywiaeth y cynefin lleol. Mae’r rhan fwyaf o wystrys a werthir heddiw yn cael eu ffermio, yr un fath â chregyn gleision: maent yn cael eu meithrin ar raffau, gallant fod yn wych, gyda chregyn llachar a glân iawn.

Gall fod yn anodd prynu cregyn bylchog, cocos, cregyn moch a physgod cregyn dwygragennog eraill sy’n llai poblogaidd mewn archfarchnadoedd, ond bydd gwerthwyr pysgod dibynadwy yn aml yn eu stocio, neu’n eu harchebu ar eich cyfer, yn enwedig os gofynnwch yn glên. Fel arall, gallwch eu harchebu ar-lein. Mae’n well coginio pysgod cregyn yn gyflym, y rhan fwyaf o fewn 2-3 munud, i wneud bwyd cyflym blasus neu fyrbryd, er bod angen ychydig yn hirach ar gregyn moch. Pryd bynnag y byddwch yn coginio cregyn dwygragennog yn eu cregyn, sicrhewch eu bod i gyd yn agor pan fyddant wedi’u coginio: os nad ydynt yn agor, taflwch nhw.

Pan fydd dewis rhwng pysgod cregyn wedi’u casglu â llaw neu rai wedi’u codi i’r wyneb, dewiswch rai wedi’u casglu â llaw: mae hyn yn golygu y gall y casglwr neu’r plymiwr ddewis yr ansawdd a’r maint. Maent yn ddrytach, a dyna pam rwy’n dewis prynu’r rhywogaethau rhatach fel cocos, cregyn bylchog a chregyn moch.


Dull

Ar gyfer y stoc

  1. Yn gyntaf gwnewch y stoc pysgod. Gratiwch neu torrwch y llysiau i gyd yn fân.
  2. Gorchuddiwch â 1.6 litr o ddŵr, ychwanegwch y perlysiau a’r ffenigl a dewch â’r cyfan i’r berw.
  3. Mudferwch am 30 munud. Gadewch i’r cyfan orffwys am hanner awr ac yna ei straenio drwy ridyll.

Ar gyfer y risotto

  1. Ffriwch y cennin a’r seleri yn ysgafn am 5 munud yn y menyn.
  2. Yna ychwanegwch y garlleg. Trowch am 2 funud.
  3. Yna ychwanegwch y barlys perlog (neu’r reis os ydych chi’n ei ddefnyddio). Trowch i orchuddio’r grawn yn yr olew.
  4. Gorchuddiwch y barlys perlog (neu’r reis os ydych yn ei ddefnyddio) yn y stoc a dewch ag ef i fudferwi. Daliwch i droi nes bod y stoc wedi’i amsugno.
  5. Yna gorchuddiwch eto ac ailadroddwch.
  6. Ar ôl tua 20 munud dylai’r barlys perlog neu’r reis fod wedi coginio, yn sbonciog i’w frathu ond yn bleserus i’w fwyta.
  7. Tynnwch o’r gwres a’i sesno at eich dant.

I goginio’r cregyn bylchog

  1. Cynheswch 100ml o win gwyn i’r berwbwynt.
  2. Ychwanegwch y cregyn bylchog a rhowch gaead ar eu pen gan roi ysgytwad iddynt.
  3. Ar ôl dim ond 1-2 funud, pan fyddant yn agor, gwasgwch lemwn ac ysgeintiwch y persli wedi’i dorri dros y cyfan.
  4. Trowch y cregyn bylchog drwy’r risotto a gweinwch ar unwaith.

Storio: Mae’r barlys perlog cadarn yn ailgynhesu’n dda. Cadwch yn yr oergell am dri i bedwar diwrnod mewn cynhwysydd wedi’i selio. Ailgynheswch gydag ychydig o ddŵr ychwanegol i ailhydradu.