Stoc sbarion llysiau

  • Amser paratoi 5 mun
  • Amser coginio 1 awr
  • Ar gyfer 5+
Reduce Energy - Vegetable peelings stock

Bydd angen

  • 600g croen a sbarion llysiau (winwns, cennin, dail gwyrdd, moron, perlysiau ac ati)
  • 2 lwy fwrdd olew
  • Halen môr a phupur du
  • 2 ddeilen llawryf

Yn gwneud 1.5 litr


Dull

  1. Cynheswch yr olew mewn sosban fawr dros wres canolig, yna ychwanegwch y sbarion llysiau, ac eithrio’r perlysiau a’r dail llawryf, gan gymysgu’n aml nes bod y llysiau’n dechrau lliwio. Yna ychwanegwch y perlysiau a’r dail llawryf ac arllwyswch ddigon o ddŵr drostynt i orchuddio’r llysiau.
  2. Ychwanegwch halen a phupur a’i fudferwi am awr i leihau.
  3. Blaswch ac addaswch y sesnin os oes angen, yna ei oeri a’i roi yn yr oergell neu ei rewi nes bod ei angen ar gyfer cawl a sawsiau.