Cynhelir Wythnos Hinsawdd Cymru bob mis Tachwedd, ac mae’n yn cynnwys cyrff a rhwydweithiau’r sector cyhoeddus, busnesau a chyrff diwydiant, mudiadau amgylcheddol, sefydliadau academaidd a mwy, i ystyried sut y gallant fynd ati ar y cyd i gyflawni polisïau a rhaglenni sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd.
Fel rhan o’r gynhadledd rithiol eleni, ar ddydd Mercher 13 Tachwedd mae Bwyd a Diod Cymru yn cynnal dwy sesiwn a fydd yn trafod effaith newid hinsawdd ar y diwydiant, a’r angen i fusnesau bwyd a diod addasu i gwrdd â’r heriau hyn.
Dydd Mercher 13 Tachwedd
9am – 10am – Addasu i’r newid yn yr hinsawdd: Diogelu diogelwch bwyd at y dyfodol
Bydd trafodaeth banel ar “Addasu i Newid Hinsawdd: Diogelu Sicrwydd Bwyd ar gyfer y Dyfodol” yn archwilio sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar argaeledd a mynediad at fwyd. Bydd y sgwrs yn canolbwyntio ar strategaethau i addasu a gwella gwytnwch, a sicrhau cyflenwad bwyd cynaliadwy, wrth fynd i’r afael â heriau hinsawdd fyd-eang sy’n newid.
Aelodau’r panel:
- David Morris (Cadeirydd) (Dirprwy Bennaeth yr Is-adran Fwyd. Llywodraeth Cymru)
- Yr Athro Timothy Lang (Athro Emeritws Polisi Bwyd, Canolfan Polisi Bwyd, Ysgol y Gwyddorau Seicolegol ac Iechyd, Prifysgol Llundain)
- Alison Lea-Wilson (Dirprwy Gadeirydd, Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru / Halen Môn)
- Edward Morgan (Castell Howell Foods)
Cynulleidfa: Mae’r sesiwn yn addas ar gyfer aelodau o’r cyhoedd, busnesau, manwerthwyr a gwasanaethau cyhoeddus, gan fod diogelwch bwyd yn effeithio ar bob un ohonom.
10.15am – 10.45am – Rheidrwydd busnes y tu ôl i addasu i’r newid yn yr hinsawdd
Gall addasu eich busnes i ymdopi ag effeithiau newid yn yr hinsawdd a manteisio ar gyfleoedd posibl deimlo’n llethol yn wyneb heriau beunyddiol rhedeg busnes. Mae busnesau’n gweithredu mewn cadwyni cyflenwi cymhleth a rhyng-gysylltiedig gyda digwyddiadau hinsawdd pell yn ogystal â lleol sy’n effeithio ar ein heconomi a’n cymdeithas. Bydd y sesiwn hon yn dadansoddi cymhlethdodau deall effaith newid hinsawdd ar fusnes drwy amlygu rhai o’r pwyntiau rheoli hinsawdd hollbwysig o fewn unrhyw fusnes. Rhoddir ystyriaeth i ymatebion tactegol a strategol y gall busnes eu defnyddio i fod yn ystwyth a mabwysiadu dull rheoli risg o ddeall sut y gall newid yn yr hinsawdd effeithio’n negyddol neu’n gadarnhaol ar swyddogaethau busnes allweddol. Byddwn yn ystyried cadwyni cyflenwi, gweithrediadau, eiddo, pobl, cwsmeriaid a defnyddwyr a’r goblygiadau ariannol ar fusnes.
Cynhelir y sesiwn gan BIC Innovation:
- Linda Grant (Cadeirydd) (BIC Innovation)
- Alison Haselgrove (BIC Innovation
Cynulleidfa: Mae’r sesiwn yn addas ar gyfer busnesau o bob maint a sector, ond yn arbennig BBaChau, sefydliadau sy’n cynnig cymorth i fusnesau, llunwyr polisi sy’n datblygu ymyriadau i helpu busnesau a sectorau i addasu i newid yn yr hinsawdd, a darparwyr cyllid a buddsoddwyr sydd yn cynnig cyfalaf ar gyfer addasiadau newid hinsawdd.