Ar gyfer y stoc
- Yn gyntaf gwnewch y stoc pysgod. Gratiwch neu torrwch y llysiau i gyd yn fân.
- Gorchuddiwch â 1.6 litr o ddŵr, ychwanegwch y perlysiau a’r ffenigl a dewch â’r cyfan i’r berw.
- Mudferwch am 30 munud. Gadewch i’r cyfan orffwys am hanner awr ac yna ei straenio drwy ridyll.
Ar gyfer y risotto
- Ffriwch y cennin a’r seleri yn ysgafn am 5 munud yn y menyn.
- Yna ychwanegwch y garlleg. Trowch am 2 funud.
- Yna ychwanegwch y barlys perlog (neu’r reis os ydych chi’n ei ddefnyddio). Trowch i orchuddio’r grawn yn yr olew.
- Gorchuddiwch y barlys perlog (neu’r reis os ydych yn ei ddefnyddio) yn y stoc a dewch ag ef i fudferwi. Daliwch i droi nes bod y stoc wedi’i amsugno.
- Yna gorchuddiwch eto ac ailadroddwch.
- Ar ôl tua 20 munud dylai’r barlys perlog neu’r reis fod wedi coginio, yn sbonciog i’w frathu ond yn bleserus i’w fwyta.
- Tynnwch o’r gwres a’i sesno at eich dant.
I goginio’r cregyn bylchog
- Cynheswch 100ml o win gwyn i’r berwbwynt.
- Ychwanegwch y cregyn bylchog a rhowch gaead ar eu pen gan roi ysgytwad iddynt.
- Ar ôl dim ond 1-2 funud, pan fyddant yn agor, gwasgwch lemwn ac ysgeintiwch y persli wedi’i dorri dros y cyfan.
- Trowch y cregyn bylchog drwy’r risotto a gweinwch ar unwaith.
Storio: Mae’r barlys perlog cadarn yn ailgynhesu’n dda. Cadwch yn yr oergell am dri i bedwar diwrnod mewn cynhwysydd wedi’i selio. Ailgynheswch gydag ychydig o ddŵr ychwanegol i ailhydradu.