- Torrwch grystiau’r bara’n giwbiau bach.
- Rhowch yr aeron, crystiau bara, sudd lemwn, 50ml o ddŵr a mêl mewn padell fach
- Dewch â nhw i’r berw, yna gostyngwch y gwres a mudferwch am ddau funud.
- Gosodwch un dafell o fara ar waelod basn pwdin un litr, a phedair tafell arall i fyny’r ochrau, gan eu gorgyffwrdd.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso’r uniadau’n gadarn gyda’i gilydd, i’w selio – gallwch ddefnyddio diferyn o ddŵr os hoffech.
- Llenwch y basn gyda’r ffrwythau, yna gorchuddiwch â’r dafell olaf o fara, gan ei selio yn erbyn y waliau o fara.
- Rhowch blât bach a phwysau trwm ar ei ben a’i roi yn yr oergell dros nos.
- Y diwrnod wedyn, trowch y pwdin allan yn ofalus ar blât a’i weini gyda digon o hufen.
Pwdin yr Haf heb wastraff
- Amser paratoi 10 mun
- Amser coginio 5 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 6 sleisen hen fara
- 500g ffrwythau’r haf cymysg (e.e., mafon, cyrens cochion, mefus, mwyar duon, a.y.y.b.)
- 50g mêl
- ½ lemon (y sudd)
- Hufen tolch, i weini
Rysáit gan yr eco-gogydd Tom Hunt
Dyma un o fy ffefrynnau hafaidd ac mae mor gyflym i’w wneud. Rwy’n hoffi defnyddio pa bynnag ffrwythau sydd gen i ar gael felly ewch am aeron yn yr haf a symud ymlaen i fricyll neu eirin gwlanog wrth i’r haf ddod i ben. Mae’n well gwneud y pwdin yma y diwrnod cyn ei fwyta, fel bod gan y bara amser i amsugno’r sudd a chaledu. Mae angen creu sêl dda felly rydw i wastad yn tynnu’r crystiau oddi ar y bara, ond peidiwch â’u taflu oherwydd gallwch eu cymysgu i mewn i’r aeron, sydd â’r fantais ychwanegol o swmpio’r llenwad. Bydd angen basn pwdin un litr ar gyfer y rysáit hon.