Madarch a Phannas o’r Badell gyda Chrwst Garlleg a Phersli

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 2
sauteed mushrooms

Bydd angen

  • 4 panasen, wedi’u plicio a’u torri’n ddarnau 2cm o faint
  • 2 llwy fwrdd o olew had rêp
  • 100g yr un o fadarch shiitake a wystrys y coed
  • ¼ o fresych crych (savoy)
  • 1 ewin o garlleg
  • 1 llwy fwrdd o deim ffres
  • 1 llwy fwrdd o finegr seidr
  • 40g o gnau cyll wedi’u tostio a’u haneru
  • Halen Môn a phupur du
  • 1 llwy fwrdd o olew olewydd
  • Croen 1 lemwn
  • 2 ewin o garlleg, wedi’u torri’n fân
  • 2 lwy fwrdd o bersli wedi’i dorri

Salad cynnes y gellir ei weini fel prif gwrs i lysieuwyr neu feganiaid neu fel dysgl ochr gyda chig.

Ar gyfer 2


Dull

  1. Berwch y pannas am 10 munud mewn dŵr hallt. Draeniwch nhw a’u rhoi ar un ochr.
  2. I wneud y crwst, cyfunwch yr holl gynhwysion mewn powlen.
  3. Cynheswch yr olew mewn padell fawr a ffrio’r pannas tan y byddan nhw wedi brownio.
  4. Ychwanegwch y garlleg, wedi’i dorri’n fân, y madarch a’r teim, a’u ffrio am 2 funud cyn ychwanegu’r bresych. Rhowch gaead ar y badell a choginio’r cyfan am 5 munud tan y bydd y bresych wedi meddalu. Tynnwch y badell oddi ar y gwres ac ychwanegu’r finegr seidr a halen a phupur i roi blas.
  5. I weini, taenwch y crwst persli a’r cnau cyll dros y llysiau.