Gratin caws dail blodfresych

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 10 mun
  • Ar gyfer 4
Cauliflower leaf cheese bake

Bydd angen

  • Dail 1-2 blodfresychen
  • 40g menyn
  • 40g blawd plaen
  • 400ml llaeth
  • 1 llwy de mwstard
  • 100g caws cheddar aeddfed, wedi’i gratio
  • 30g briwsion bara

Dull

  1. Tynnwch y dail oddi ar goesynnau’r blodfresych a thorrwch y coesynnau yn ddarnau 2cm bras. Stemiwch neu berwch nhw mewn dŵr berw am 2 funud nes bod y dail wedi gwywo a’r coesynnau’n dal i fod ychydig yn grensiog. Draeniwch ac arllwyswch i ddysgl popty.
  2. Yn y cyfamser, gwnewch y saws caws trwy doddi’r menyn dros wres canolig, yna trowch y blawd i mewn a’i goginio am 1 munud cyn ychwanegu’r llaeth yn raddol, gan ei droi drwy’r amser.
  3. Dewch ag ef i’r berw, yna gostyngwch y gwres a mudferwch am 2 funud nes ei fod wedi tewhau.
  4. Cymysgwch y mwstard i mewn a sesno’r cyfan gyda halen a phupur ac yn olaf ychwanegwch hanner y caws a chymysgwch yn dda.
  5. Arllwyswch y saws dros y dail ac ysgeintiwch y caws a’r briwsion bara sy’n weddill drosto.
  6. Rhowch o dan gril wedi’i gynhesu ymlaen llaw am 5 munud nes bod y caws wedi toddi a’r briwsion bara’n euraidd.