Barlysotto cêl a lemon gyda briwsion bara

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 1 awr 30 mun
  • Ar gyfer 5+
kale and lemon barleyotto

Bydd angen

  • Joch o olew olewydd ifanc iawn
  • 80g topiau gwyrdd cennin, wedi’u golchi a’u sleisio’n fân
  • 80g winwnsyn, wedi’i sleisio’n fân
  • 1 ewin garlleg, wedi’i falu
  • 200g barlys potes
  • ½ lemon heb gwyr, croen a sudd
  • 200ml gwin gwyn, dewisol
  • 200g cêl
  • briwsion bara i weini

Rysáit gan yr eco-gogydd Tom Hunt

Mae barlys yn cael ei dyfu’n lleol, ond ddim yn cael ei werthfawrogi ddigon, ac mae’n ddewis amgen blasus yn lle reis. Mae’n hawdd ei dyfu ac mae ganddo system wreiddiau gref, ddofn sy’n helpu i atal erydiad pridd. Mae hefyd yn grawn fforddiadwy a maethlon. Defnyddiwch ef i roi swmp i botes, fel sylfaen ar gyfer salad grawn cyflawn neu mewn risottos – a elwir yn barleyotto neu orzotto yng Ngogledd yr Eidal. Fel llawer o fwydydd, mae gwin wedi dod yn nwydd, gan ostwng ei ansawdd tra’n cynyddu ei effaith ar yr amgylchedd. Dewiswch win yr un ffordd ag y byddwch chi’n dewis bwyd da: prynwch lai, ond prynwch yn well, o winllannoedd sy’n gofalu am yr amgylchedd.


Dull

  1. Cynheswch yr olew mewn padell fawr, drom dros wres canolig-isel a choginiwch y topiau cennin, winwnsyn a garlleg yn ysgafn am 5 munud, heb eu lliwio.
  2. Ychwanegwch y barlys, hanner croen y lemon a’i goginio am funud, gan ei droi.
  3. Arllwyswch y gwin i mewn, os ydych yn ei ddefnyddio a dewch ag ef i’r berw.
  4. Arllwyswch ddigon o ddŵr berwedig i orchuddio’r barlys a mudferwch yn ysgafn, gan ei droi’n rheolaidd, nes bod yr holl hylif wedi’i amsugno.
  5. Ychwanegwch fwy o ddŵr berwedig os oes angen a pharhau i goginio nes bod y barlys yn dyner ond gwydn, tua 30-40 munud.
  6. Rhowch o’r neilltu i orffwys.
  7. Dewch â sosban o ddŵr i’r berw.
  8. Torrwch y llysiau gwyrdd yn fân, gan gynnwys y coesynnau, a’u hychwanegu at y dŵr berw.
  9. Berwch am 2 funud ac yna draeniwch, gan ddal y dŵr.
  10. Cymysgwch y llysiau gwyrdd i biwrî, gan ychwanegu ychydig o’r dŵr coginio os oes angen. (Cadwch unrhyw ddŵr coginio dros ben fel stoc yn eich oergell neu rewgell.)
  11. Cymysgwch y piwrî gwyrdd i mewn i’r barlys a’i sesno’n dda gyda halen, pupur a sudd lemwn.
  12. Rhowch y cyfan i mewn i bowlenni a rhoi’r croen lemon sy’n weddill a’r briwsion bara ar ei ben.