Helpu eich busnes bwyd a diod i ddatblygu cynllun lleihau carbon

Mae mesur llwyddiant eich busnes yn hanfodol ar gyfer twf, ond a ydych chi wedi mesur allbynnau carbon eich busnes?

Mae lleihau allyriadau eich busnes nid yn unig yn dod â buddion i’ch busnes a’r gymuned ehangach, ond mae hefyd yn cyfrannu at darged y llywodraeth o gyflawni allyriadau sero-net erbyn 2050.

Mae menter newydd wedi’i lansio, sy’n rhoi cyfle i fusnesau bwyd a diod ddatblygu cynlluniau lleihau carbon.

 

Beth yw cynllun lleihau carbon?

Mae cynllun lleihau carbon yn rhaglen mapio sy’n cael ei chreu gan fusnesau neu sefydliadau i leihau eu hallyriadau carbon a’u hôl troed amgylcheddol. Mae’n gosod targedau ar gyfer lleihau allyriadau, yn amlinellu strategaethau i gyflawni’r nodau hyn, ac yn olrhain cynnydd dros amser.

Mae’r cynlluniau hyn yn aml yn cynnwys mesurau fel hybu effeithlonrwydd ynni, mabwysiadu ffynonellau ynni adnewyddadwy, a hyrwyddo arferion cynaliadwy i helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

 

Sut gallwn ni gefnogi eich busnes?

Rydym yn chwilio am 120 o fusnesau bwyd a diod o bob rhan o Gymru i ymuno â chyfnod peilot y fenter rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025.

Fel rhan o’r rhaglen, bydd busnesau’n cael cymorth i:

  1. sefydlu llinell sylfaen ar gyfer eu hôl troed carbon;
  2. datblygu cynllun lleihau carbon gyda tharged o gyflawni allyriadau sero-net erbyn 2050.

 

Sut gall eich busnes gymryd rhan?

Bydd pedwar prosiect presennol yn cefnogi busnesau yn ystod y cyfnod hwn.

I ymuno â’r cynllun peilot, cysylltwch ag un o’r prosiectau a restrir isod a chynnwys “Peilot Cynlluniau Lleihau Carbon” yn y llinell bwnc.

  1. Clwstwr Cynaliadwyedd: SustainabilityCluster@levercliff.co.uk
  2. Rhaglen Uwchraddio: bwyd-food@bic-innovation.com
  3. Sgiliau Bwyd a Diod Cymru: sgiliau-cymru@menterabusnes.co.uk
  4. Rhaglen Datblygu Masnach: bwydadiodcymru@menterabusnes.co.uk

 

Beth sy’n digwydd ar ôl y cyfnod peilot?

Yn amodol ar lwyddiant y cyfnod peilot ac argaeledd cyllid, bydd cynigion ar gyfer parhau â’r gwasanaeth y tu hwnt i fis Mawrth 2025 yn cael eu cyflwyno.

Conwy Mussels Man Min