Cydweithio i leihau gwastraff bwyd

Gallai eich busnes fod yn gymwys i gael cyllid i helpu gyda stoc dros ben.

A yw eich busnes wedi ystyried ailddosbarthu bwyd dros ben ond wedi wynebu rhwystrau?

Mae menter gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â chanolbwynt bwyd dros ben FareShare Cymru, wedi sicrhau bod cyllid ar gael i’w gwneud hi’n haws i gwmnïau bwyd a diod o Gymru roi stoc dros ben.

Gallai menter Bwyd Dros Ben ag Amcan helpu eich busnes i oresgyn y rhwystrau hyn a helpu gyda chostau sy’n ymwneud â llafur, pecynnu, rhewi, cynaeafu a chludiant.

O wallau labelu i stoc sydd wedi pasio ei ddyddiad ar ei orau cyn, gallai’r fenter hon ateb eich heriau gwastraff, tra ar yr un pryd helpu’r amgylchedd a sefydliadau cymunedol.

Mae FareShare Cymru eisoes yn gweithio gyda 500 o gwmnïau ac yn dosbarthu i 188 o elusennau ledled Cymru – a wnewch chi ymuno â nhw?

Diddordeb?

Helpwch yr amgylchedd a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl heddiw.
Darganfyddwch a allai eich busnes fod yn gymwys.

Helping Your Food And Drink Business Become More Sustainable Min

Clwstwr cynaliadwyedd

Sustainable Strategic Vision Min

Gweledigaeth strategol

Creating A Green Workforce For The Future Min

Gweithlu gwyrdd

Wider Support To Help Your Business Meet The Challenges Of The Future Min

Cefnogaeth ehangach

Business Success Stories Min

Straeon llwyddiant