Halen Môn
Bragdy Mŵs Piws
Fferm Wenyn Cilgwenyn
The Pudding Compartment
Bay Coffee Roasters
Ancre Hill Estates
Halen Môn
Wedi’i sefydlu ym 1997 gan Alison a David Lea-Wilson, mae’r cwmni’n parhau i fod yn eiddo i deulu ac wedi llwyddo i ddatblygu a chynnal busnes cynaliadwy, llwyddiannus sy’n cyflogi pobl leol, wedi’i seilio ar egwyddorion amgylcheddol ac addysgol tra hefyd yn denu twristiaid i ardal wledig, arfordirol o Cymru. Mae’r busnes yn hyrwyddo ei staff ac wedi ymrwymo i dalu mwy na’r Cyflog Byw a darparu cymorth proffesiynol, cymdeithasol a lles. Mae ei ddiwylliant busnes yn bwysig iawn i’r tîm.
Mae Halen Môn wedi ymrwymo i yrru’r busnes yn ei flaen tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy wrth iddo symud yn nes at ei amcan o ddim gwastraff i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn trwy gymhwyso egwyddorion ‘Lleihau, Ailddefnyddio ac Ailgylchu’ i bob gwastraff a chyd-gynnyrch.
Ar ôl ennill statws B Corp yn ddiweddar ar ôl arddangos y safonau cymdeithasol ac amgylcheddol uchaf, mae Halen Môn yn defnyddio hyn fel meincnod ar gyfer cynnydd parhaus, gan edrych ar wella arferion o’u defnydd o ynni i ailgylchu gwastraff, ac annog eu staff i gymryd rhan weithredol a gwneud yr hyn a wnânt yn y gwaith, gartref.
Yn dilyn achrediad, maent wedi cyflogi Rheolwr Cyffredinol newydd, a rhan fawr o’u rôl fydd helpu i wella arferion gwaith.
Bragdy Mŵs Piws
Mae Bragdy Mŵs Piws wedi’i leoli yn nhref harbwr Porthmadog yng ngogledd Cymru, ac mae’n cynhyrchu ystod eang o wahanol gwrw mewn casgen a photel a barilan.
Dechreuodd ei daith i gynaliadwyedd a datgarboneiddio yn ystod pandemig Covid 19 pan gafodd y bragdy beth amser i gymryd cam yn ôl ac edrych ar y darlun ehangach i weld cynaliadwyedd fel un o’r elfennau allweddol lle’r oedd eisiau datblygu ei fusnes.
Fe wnaeth yr astudiaeth ddichonoldeb drwy Lywodraeth Cymru helpu Bragdy Mŵs Piws i amlygu rhai meysydd allweddol y gallai wneud newidiadau fel gosod paneli solar, gwell insiwleiddio ar rai o’r llestri bragu a phethau fel symud i gerbydau trydan, boed hynny’n faniau dosbarthu neu’r lori fforch godi.
Fferm Wenyn Cilgwenyn
Enillodd Fferm Wenyn Cilgwenyn Wobr Seren Gynaladwyedd y Dyfodol yn y Ffair Fwyd Arbennig a Chain oherwydd ei hagwedd gyfannol at fusnes ar ôl trawsnewid pwll glo segur yn fferm wenyn newydd sbon, sy’n cynnig mêl carbon-niwtral.
Mae Fferm Cilgwenyn, yn Llangennech, ger Llanelli wedi rhoi nifer o fentrau cynaliadwyedd ar waith yn ei hadeiladau i leihau allyriadau, gan gynnwys creu ei thrydan ei hun drwy ynni’r haul a phlannu digon o goed i wneud iawn am 30 mlynedd o gynhyrchu jariau a chaeadau. Mae’r mêl yn cael ei gyflenwi mewn pecynnau sy’n ailgylchadwy ac wedi’u hailgylchu.
Mae’r mêl yn cael ei gasglu o wenynfeydd gwahanol yng Nghymru – o forfeydd heli Penrhyn Gŵyr i ucheldiroedd Ceredigion. Fodd bynnag, gan nad yw’r cwmni’n defnyddio’r holl drydan y mae’n ei gynhyrchu ac yn ei ddychwelyd i’r grid, mae’r carbon sy’n cael ei arbed yn gwrthbwyso’r allyriadau o ddefnyddio cerbydau.
The Pudding Compartment
Mae The Pudding Compartment yn Sir y Fflint yn pobi danteithion melys ar gyfer y sectorau lletygarwch a manwerthu arbenigol. Mae’n cyflogi 25 o bobl leol, ac mae’r cwmni’n cymryd camau breision i wella ei gymwysterau cynaliadwyedd.
Gyda chymorth y Clwstwr Cynaliadwyedd, mae ôl troed carbon y cwmni wedi cael ei fesur, a nodwyd poptai aneffeithlon a defnydd o becynnau plastig.
Er bod goleuadau LED wedi’u gosod ym mhob rhan o’r adeilad, mae poptai effeithlon a phecynnu gwrthsaim wedi’u cyflwyno, gan arbed arian a’r amgylchedd.
Yn aelod o’r Clwstwr ers 2020, cyflwynwyd y cwmni i AMRC ac mae wedi bod yn gweithio i awtomeiddio ei broses weithgynhyrchu yn llawn i Ddiwydiant 4.0.
Bay Coffee Roasters
Wedi’i leoli yng Ngheredigion, mae Bay Coffee Roasters yn rhostio, pecynnu a dosbarthu coffi yn lleol ac yn genedlaethol. Mae’r coffi’n cael ei fewnforio’n gyfrifol, gan helpu bywydau’r ffermwyr sy’n ei dyfu.
Wedi’i gofrestru gyda Masnach Deg ac Organig, mae’r cwmni’n rhostio coffi gan ddefnyddio trydan a stêm, gyda’r trydan yn dod o gyflenwr ynni 100% adnewyddadwy y gellir ei olrhain gan ddefnyddio cymysgedd o ynni gwynt, dŵr a solar.
Mae’r cwmni wedi derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd gan gynnwys cymorth drwy’r Clwstwr Cynaliadwyedd. Fel aelod o’r Clwstwr, mae’r cwmni’n cael y wybodaeth ddiweddaraf, trwy seminarau ac ar sail un-i-un, gyda gwybodaeth allweddol megis y broses ar gyfer dod yn gwmni B-Corp.
Ancre Hill Estates
Mae Ancre Hill Estates yn cynhyrchu gwinoedd biodynamig ac organig ar ei safle 12 hectar yn Sir Fynwy. Bu’r winllan, ynghyd â thair gwinllan arall o Gymru, yn cymryd rhan yn y prosiect ‘Lleihau’r defnydd o gemegau synthetig yng ngwinllannoedd Cymru’.
Roedd y prosiect yn edrych ar ffyrdd arloesol o ddatgarboneiddio’r gwinllannoedd i wella eu heffeithlonrwydd. Roedd hyn yn cynnwys casglu data, trwy ddefnyddio system dywydd gynhwysfawr a oedd yn caniatáu penderfyniadau mwy gwybodus i amseriad chwistrellau a helpu i gyfyngu ar y defnydd o beiriannau fferm, felly nid yn unig arbed amser ac arian i’r busnesau ond hefyd yn llai niweidiol i’r amgylchedd.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, edrychodd y prosiect hefyd ar sut y gallai’r gwinllannoedd dyfu eu busnesau o ran proffidioldeb a chreu swyddi yn y diwydiant gwin yng Nghymru.