Gan edrych ar feysydd megis twf a chynhyrchiant, effaith amgylcheddol, gwaith teg a chodi safonau drwyddi draw, drwy gydweithio, y gobaith yw y gall llywodraeth a’r diwydiant greu un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd.
Fel rhan o’r weledigaeth strategol gyffredinol ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau i fabwysiadu a thrawsnewid eu harferion, a thrwy hynny wella eu neges amgylcheddol i gwsmeriaid a defnyddwyr – a chynyddu gwerthiant o ganlyniad. Rhoddir y cymorth hwnnw i fusnesau ledled y wlad – boed yn ficro-safleoedd bach, yn endidau canolig eu maint neu’n adrannau o gwmnïau mwy sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
Mae hyn yn adeiladu ar ei strategaeth flaenorol, a welodd darged twf o 30% ar gyfer y diwydiant yn cael ei gyrraedd flwyddyn yn gynnar, gyda’r gwerthiant uchaf erioed o £7.5bn yn 2019. Ei nod newydd yw sicrhau gwerthiannau bwyd a diod o leiaf £8.5bn erbyn 2025.
Cynllun Sero Net Cymru
Cynrychiolir y camau cyntaf tuag at sero net a Chymru wyrddach, gryfach a thecach, yng Nghynllun Sero Net Cymru. Mae’r cynllun hwn yn nodi 123 o bolisïau a chynigion, ynghyd ag ymrwymiadau a chamau gweithredu o bob cornel o Gymru.
Mae Cyllideb Carbon Sero Net Cymru 2 yn amlinellu ail gynllun lleihau allyriadau Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod 2021 – 2025, wrth iddynt ddechrau adeiladu’r sylfeini ar gyfer Cyllideb Carbon 3 a’u targed ar gyfer 2030, yn ogystal â sero net erbyn 2050.
Gweledigaeth Strategol
I ddysgu mwy am y weledigaeth sy’n sail i’r strategaeth, ewch i’r tudalennau Gweledigaeth Strategol ar ein gwefan.