Climate Adaptation & Resilience Training for Food and Drink Manufacturers
Er gwaethaf ymdrechion i leihau effaith newid hinsawdd trwy ddatgarboneiddio a mesurau Sero Net, mae newid hinsawdd wedi’i “gloi i mewn” hyd y gellir rhagweld. Y llynedd (2023) gwelwyd y toriad byd-eang cyntaf blwyddyn o hyd o’r terfyn rhybuddio 1.5c.
Mae newidiadau mewn patrymau tywydd yn dod yn fwyfwy anghyson, gyda digwyddiadau hinsawdd annisgwyl mwy aml a difrifol. Mae’r Rhaglen Hyfforddiant Addasu i’r Hinsawdd a Gwydnwch yn mynd â busnesau drwy ddull sy’n seiliedig ar risg i nodi camau rhagweithiol a chymesur i addasu i newid hinsawdd a lleihau canlyniadau negyddol digwyddiadau hinsawdd annisgwyl ar weithrediadau, adeiladau, cadwyni cyflenwi, pobl, cyllid a chwsmeriaid yn ogystal ag amlygu cyfleoedd posibl.
Mae’r dull unigryw hwn yn canolbwyntio ar bwyntiau rheoli hinsawdd critigol o fewn busnes bwyd a diod ac yn defnyddio offer a thechnegau rheoli fel cynllunio senarios, cynllunio parhad, a rheoli risg i helpu gweithgynhyrchwyr bwyd a diod i ragweld senarios yn y dyfodol a nodi ffyrdd o addasu i effeithiau newid hinsawdd. Cefnogir y rhaglen hyfforddi gan ganllaw hanfodol a thempledi a rhestrau gwirio defnyddiol sy’n helpu i rannu’r maes cymhleth hwn yn ddarnau hylaw. Darperir hyfforddiant trwy gyfres o weminarau neu gweithdai un i un gyda busnesau.
E-bostiwch ni i ddarganfod mwy am y Rhaglen Addasu i’r Hinsawdd a Gwydnwch.
Mynediad at hyfforddiant ar gyfer busnes gwyrddach, cynaliadwy.
Mae rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn gweithio’n agos gyda busnesau o bob maint yng Nghymru i nodi prinder sgiliau a chyfleoedd i uwchsgilio eu gweithlu.
Mae’r rhaglen hefyd yn darparu hyfforddiant cynaliadwyedd wedi’i ariannu’n llawn i gynorthwyo’ch busnes ar ei daith gynaliadwyedd a symud ymlaen tuag at gyflawni nodau Sero Net.
Pwrpas y cwrs hyfforddi yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i gyfranogwyr ddatblygu systemau a chamau gweithredu sy’n mynd i’r afael â rheolaeth amgylcheddol, cynaliadwyedd ac effaith gymdeithasol.
Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cynnig cyfres o weithai datgarboneiddio penodol ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod gyda ffocws ar bwysigrwydd symud tuag at sero net ar gyfer y sector.
Dewch i unrhyw un neu bob un o’r pum gweithdy datgarboneiddio annibynnol ar:
- Effeithlonrwydd a Rheolaeth Ynni
- Systemau Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy
- Datgarboneiddio Systemau Gwresogi
- Datgarboneiddio Systemau Oeri a Rheweiddio a
- Datgarboneiddio Gwastraff Bwyd a Phecynnu
Mae’r gweithdai nesaf i’w cynnal ar Fehefin 4, 11, 18, 25 a Gorffenaf 2.