Ewch draw i’r Parth Cynaliadwyedd yng Nghynhadledd Blas Cymru / Taste Wales am y cyfle i fynychu cymorthfeydd un-i-un i helpu i wella arferion cynaliadwy ar gyfer eich busnes bwyd a diod. Rhagor o wybodaeth…
Clwstwr Cynaliadwyedd
Mae’r Clwstwr Cynaliadwyedd yn dod â chynhyrchwyr, y byd academaidd a Llywodraeth Cymru ynghyd i gydweithio ar wella cynaliadwyedd bwyd a diod. Darganfyddwch sut y gall y clwstwr eich helpu i wella cynaliadwyedd eich busnes a’r cymorth sydd ar gael i gynhyrchwyr Bwyd a Diod Cymru.
B-Corp
Dod yn B-Corp Ardystiedig yw un o’r prosesau mwyaf trwyadl, cynhwysfawr a gwerth chweil y bydd eich busnes yn ymgymryd â nhw. Darganfyddwch sut i ddechrau, dysgwch fwy am y broses ardystio a’r gefnogaeth sydd ar gael i’ch helpu i ennill ardystiad.
Lleihau Carbon
Dewch i ddeall y Rhaglen Beilot Cynllun Lleihau Carbon newydd a’r camau sydd ynghlwm i’ch helpu i greu cynllun lleihau carbon ar gyfer eich busnes. Bydd y rhaglen hon yn eich helpu i ddadansoddi eich allyriadau carbon a datblygu cynllun graddol i gyrraedd sero net.
Iechyd a Diet
Gall tîm Nutri-Cymru gynnig cyngor ac arbenigedd ar ddatblygu cynhwysion a chynhyrchion bwyd iach a chynaliadwy. Gallan nhw roi mynediad at bartneriaid y diwydiant, academaidd ac iechyd y cyhoedd ar gyfer prosiectau cydweithredol i ysgogi arloesedd a thwf busnes.
Hyfforddiant a Sgiliau
Dewch i gwrdd â thîm Rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru a deall yr hyfforddiant cynaliadwyedd a datgarboneiddio a’r cyllid sydd ar gael i gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru.
Addasu ar gyfer yr Hinsawdd
Ymunwch â thîm BIC-Innovation i ddeall allbynnau diweddaraf eu gwaith Addasu ar gyfer yr Hinsawdd a sut i gynnal asesiadau risg i ddiogelu ffynonellau eich cynhyrchion a gwella gwydnwch eich busnes.
Pecynnu a Labelu
Dewch i ddeall y rheoliadau pecynnu a labelu diweddaraf a sut y bydd y rhain yn effeithio ar eich busnes yn y dyfodol. Dysgwch am y Cynllun Dychwelyd Ernes, y Cynllun Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig a sut y gallai Eco-Labelu edrych yn y dyfodol.
Sut y gall data wneud eich busnes yn fwy cynaliadwy
Gadewch i arbenigwyr AMRC Cymru siarad â chi am sut i ddefnyddio’r data rydych chi’n ei gynhyrchu i wneud eich busnes yn fwy cynaliadwy. O ddeall eich gwastraff, i ychwanegu synwyryddion at gynhyrchu bob dydd a gwella awtomeiddio, bydd y tîm yn gallu eich helpu i ddod o hyd i’r atebion cywir.
Trafodaeth banel
Yn ogystal â gweithgareddau yn y Parth Cynaliadwyedd, bydd trafodaeth banel ar y llwyfan yn y prynhawn yn canolbwyntio ar sut y gall y diwydiant bwyd a diod haneru effeithiau amgylcheddol yr holl systemau pecynnu erbyn 2030.
Bydd aelodau’r panel yn cynnwys Mark Grant, Arweinydd y Clwstwr Cynaliadwyedd; Sarah Haynes, Pennaeth Cynaliadwyedd IGD; a Dr Rosie Oretti, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Grounds For Good.