Pwdin yr Haf heb wastraff

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 5 mun
  • Ar gyfer 5+
Summer pudding

Bydd angen

  • 6 sleisen hen fara
  • 500g ffrwythau’r haf cymysg (e.e., mafon, cyrens cochion, mefus, mwyar duon, a.y.y.b.)
  • 50g mêl
  • ½ lemon (y sudd)
  • Hufen tolch, i weini

Rysáit gan yr eco-gogydd Tom Hunt

Dyma un o fy ffefrynnau hafaidd ac mae mor gyflym i’w wneud. Rwy’n hoffi defnyddio pa bynnag ffrwythau sydd gen i ar gael felly ewch am aeron yn yr haf a symud ymlaen i fricyll neu eirin gwlanog wrth i’r haf ddod i ben. Mae’n well gwneud y pwdin yma y diwrnod cyn ei fwyta, fel bod gan y bara amser i amsugno’r sudd a chaledu. Mae angen creu sêl dda felly rydw i wastad yn tynnu’r crystiau oddi ar y bara, ond peidiwch â’u taflu oherwydd gallwch eu cymysgu i mewn i’r aeron, sydd â’r fantais ychwanegol o swmpio’r llenwad. Bydd angen basn pwdin un litr ar gyfer y rysáit hon.


Dull

  1. Torrwch grystiau’r bara’n giwbiau bach.
  2. Rhowch yr aeron, crystiau bara, sudd lemwn, 50ml o ddŵr a mêl mewn padell fach
  3. Dewch â nhw i’r berw, yna gostyngwch y gwres a mudferwch am ddau funud.
  4. Gosodwch un dafell o fara ar waelod basn pwdin un litr, a phedair tafell arall i fyny’r ochrau, gan eu gorgyffwrdd.
  5. Gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso’r uniadau’n gadarn gyda’i gilydd, i’w selio – gallwch ddefnyddio diferyn o ddŵr os hoffech.
  6. Llenwch y basn gyda’r ffrwythau, yna gorchuddiwch â’r dafell olaf o fara, gan ei selio yn erbyn y waliau o fara.
  7. Rhowch blât bach a phwysau trwm ar ei ben a’i roi yn yr oergell dros nos.
  8. Y diwrnod wedyn, trowch y pwdin allan yn ofalus ar blât a’i weini gyda digon o hufen.